Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnal ymchwiliad cyhoeddus wedi ap锚l ffracio
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy ym Mro Morgannwg.
Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg wrthod cais gan gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Lland诺 ar gyfer nwy si芒l a nwy confensiynol.
Mae'r cwmni wedi gwneud ap锚l i Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i'r ymchwiliad gael ei gynnal ar Fai 23.
Mae gan drigolion lleol tan Chwefror 14 i nodi unrhyw wrthwynebiad i'r cais gyda'r Arolygydd Cynllunio.
Mae trigolion lleol wedi lleisio pryderon y gallai'r tyllu arbrofol arwain at dyllu pellach na ffracio, sy'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear er mwyn eu gwahanu a rhyddhau'r nwy.
Dim nwy si芒l
Mae gwrthwynebwyr yn y DU ac America, lle mae'n cael ei wneud yn eang, yn dweud y gall achosi llygredd amgylcheddol a salwch ymhlith pobl leol.
Ond yn 么l Gerwyn Williams, wnaeth y cais gwreiddiol, fe fyddai'r tyllu am nwy confensiynol yn hytrach na nwy si芒l.
Cafodd y cais gwreiddiol gan y cwmni ei dynnu'n 么l ar 么l canfod bod tai ger y safle tyllu.
Yn y cais hwnnw, fe wnaeth ymgyrchwyr ganfod cyfeiriad at nwy si芒l a dechrau ymgyrchu yn erbyn y cais.
Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn swyddfa Cyngor Bro Morgannwg yn Y Barri.
Yn 么l llefarydd mae'r ap锚l yn ymwneud a'r cais i wneud gwaith tyllu archwiliadol.