9.3% yn llai o geisiadau i brifysgolion Cymru

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Er bod y nifer yn is na'r un cyfnod yn 2011 mae 'na fwy o geisiadau hwyr

Mae ystadegau gwasanaeth derbyniadau'r prifysgolion, Ucas, yn awgrymu bod ceisiadau i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn is na'r flwyddyn flaenorol wrth i'r dyddiad cau agos谩u.

Mae 9.3% yn llai o geisiadau oddi wrth ddarparfyfyrwyr hyd at ganol fis Rhagfyr.

Er hynny, mae'r ystadegau'n awgrymu bod mwy o geisiadau hwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau unrhyw un sydd am fynd i brifysgol ym mis Medi 2012 yw Ionawr 15.

Dywedodd Addysg Uwch Cymru (AUC) y gallai myfyrwyr gymryd mwy o amser i ystyried hopsiynau yn sgil trefniadau ff茂oedd newydd.

Mae disgwyl i ff茂oedd dysgu drwy'r Deyrnas Gyfun godi eleni.

'Cynnydd mawr'

Ond Llywodraeth Cymru fydd yn talu am y cynnydd i fyfyrwyr o Gymru lle bynnag y byddan nhw'n astudio.

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru oddi wrth ddarpar fyfyrwyr o Loegr.

Dywedodd cyfarwyddwr AUC, Amanda Wilkinson, fod cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2011.

"Rydym yn credu bod hyn yn newyddion da ac yn adlewyrchu'r ffaith fod pobol wedi cael y neges am y fargen ar gyfer y myfyrwyr sy'n dod i Gymru," meddai.

"Rydym yn disgwyl mwy o geisiadau cyn y dyddiad cau.

"Mae'r nifer yn is na'r flwyddyn flaenorol ond rhaid cofio bod 2011 yn flwyddyn gref.

"Dim ond ychydig fisoedd yn 么l yr oedden ni'n s么n am y nifer o bobl ifanc nad oedd yn mynd i brifysgol."

Mae ystadegau diweddaraf Ucas yn cyfeirio at y cyfnod hyd at Ragfyr 19 ac mae disgwyl y nifer derfynol ar Ionawr 30.

Yn Lloegr mae ceisiadau ymgeiswyr wedi gostwng 7% ond mae wedi cynyddu yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y Deyrnas Gyfun mae'r ceisiadau wedi gostwng dros 22,000 (6.4%) o'i gymharu 芒'r un cyfnod yn 2011.

"Mae ymgeiswyr yn cymryd mwy o amser wrth ymchwilio eu dewisiadau ond mae'r llif ceisiadau wedi cyflymu ...," meddai Prif Weithredwr Ucas, Mary Curnock Cook.

Cynlluniau

"Mae'n dal i fod yn rhy gynnar i ragweld y canlyniad terfynol eleni ond fe gawn ddarlun cliriach ar 么l y dyddiad cau."

Dywedodd Luke Young, Llywydd NUS Cymru, ei fod yn credu bod gwahaniaethau lefelau ff茂oedd dysgu yn effeithio ar ddarpar-fyfyrwyr.

"Mae'r cynnydd diweddar yn nifer yr ymgeiswyr i Ucas yn debygol o fod o ganlyniad i lawer o bobl yn ystyried pa opsiynau sydd orau iddyn nhw o ystyried y gwahanol gynlluniau cyllido sydd yn y prifysgolion ar draws y pedair gwlad."

Mae ystadegau Ucas yn cyfeirio at geisiadau darpar fyfyrwyr y DG a thramor.

Dywedodd Prif Weithredwr Prifysgolion y DG, Nicola Dandridge, fod posibilrwydd y byddai'r cynnydd diweddar yn nifer y ceisiadau yn parhau hyd at y dyddiad cau.