Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr ap cynta i gylchgrawn Cymraeg
Mae cylchgrawn Golwg wedi cyhoeddi y byddan nhw'n mentro i fyd yr ap yn 2012.
Dros gyfnod y Nadolig mae Golwg yn cynnig y gwasanaeth newydd - apGolwg - yn rhad ac am ddim.
Yn y flwyddyn newydd, fe fydd hi'n bosib prynu fersiwn arbennig o gylchgrawn Golwg ar gyfer dyfeisiadau Apple - yr iPad, yr iPhone a'r iPod.
Wedi rhifyn cyntaf y flwyddyn o Golwg, fe fydd y cylchgrawn ar gael ar sgrin o'r funud y mae'n cael ei gyhoeddi - ym mhob man ar draws y byd.
Ymhlith rhai o'r atyniadau ar y gwasanaeth y mae
- modd symud yn rhwydd o dudalen i dudalen ac ar draws tudalennau gan chwyddo neu leihau'r ysgrifen trwy gyffyrddiad bys
- mae apGolwg hefyd yn rhoi cyfle i gynnwys fideos a ffeiliau sain sy'n rhan o'r cylchgrawn electronig ac fe fydd y rheiny ar gael heb unrhyw gost ychwanegol
- ac mae dwy ffordd o brynu'r cylchgrawn - naill ai trwy danysgrifiad blwyddyn neu chwe mis, neu fesul rhifyn am ddim ond 拢1.49 y tro
Mae'r ap wedi cael ei ddatblygu gan gwmni Yudu, gyda chefnogaeth gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Yn 么l y cwmni fe fydd yn gam newydd pwysig ymlaen i'r wasg Gymraeg.
'Pawb yn y byd'
"Mae Golwg wedi ceisio torri tir newydd yn gyson ac, wrth i fwy a mwy o bobol droi at ddarllen ar ddyfeisiadau symudol, mae'n bwysig fod y wasg brint Gymraeg yn ennill ei lle ar y cyfryngau newydd," meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth.
"Fersiwn electronig llawn o'r cylchgrawn print fydd hwn, ond efo'r cyfle i ychwanegu ambell elfen ychwanegol.
"Mae yna fanteision eraill hefyd - mi fydd ar gael i bawb ymhob man y funud y mae'n cael ei gyhoeddi.
"Mi fydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n teithio tipyn, i bobl mewn ardaloedd lle mae siopau papur newydd yn brin ac i bobl sy'n byw yng ngweddill gwledydd Prydain ac ar draws y byd."
'Cydweithio'
Mae'r prosiect wedi ei arwain gan Owain Schiavone, Prif Weithredwr chwaer wasanaeth Golwg, y gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.
"Er mai prosiect cylchgrawn Golwg ydy hwn, mae'r datblygiad yn rhoi cyfle i gydweithio rhagor rhwng y ddau wasanaeth," meddai.
"Mi fyddwn ni'n gallu datblygu elfennau newydd ar gyfer y ddau wasanaeth a chryfhau'r dolenni rhyngddyn nhw.
"Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'r dechnoleg yn agor drysau ar lawer rhagor o ddatblygiadau yn y dyfodol."