Cerddorion i fynd ar 'streic'

Ffynhonnell y llun, 91热爆 Wales

Disgrifiad o'r llun, Dywed cerddorion eu bod yn colli arian yn sgil system freindaliadau'r PRS

Mae corff sy'n cynrychioli rhai o gerddorion Cymru'n dweud y byddan nhw'n mynd ar streic am dridiau'n ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru fod yr aelodau'n anfodlon iawn 芒'r taliadau sy'n cael eu rhoi iddyn nhw am chwarae eu gwaith ar Radio Cymru.

Cafodd streic undydd ei chynnal Ddydd G诺yl Dewi eleni.

Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru: "Er mwyn dangos ein hanfodlonrwydd 芒'r sefyllfa rydym am atal ein cerddoriaeth am dri diwrnod sef y 19eg, yr 20fed a'r 21ain o Ragfyr, 2011.

"Mynnwn newid y drefn, a chael taliad teg i gyfansoddwyr Cymru am eu gwaith.

"Ers tair blynedd bellach, mae llawer o gerddorion wedi gadael y byd cerddoriaeth i ymgymryd 芒 swyddi eraill, gan nad oes arian ar 么l yn y diwydiant, mae hyn yn peryglu holl ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

"O ganlyniad felly, nid oes gennym ddewis ond gweithredu".

'Anghydfod'

Dywedodd llefarydd ar ran 91热爆 Cymru: "Anghydfod rhwng y PRS (Performing Rights Society) a'u haelodau yng Nghymru, sef y cerddorion eu hunain, yw hwn ac nid dadl gyda 91热爆 Radio Cymru.

"Mae'n anffodus y gallai gwrandawyr Radio Cymru ddioddef yn sgil protest o'r fath, yn enwedig o gofio'r gefnogaeth y mae'r orsaf yn ei rhoi i gerddorion yng Nghymru.

"Yr ydym yn falch o'r cyfleodd rydym yn eu cynnig i gerddorion yng Nghymru - o feithrin talent newydd i gefnogi cerddorion mwy profiadol.

"Fel cefnogwr brwd o'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg felly, mae'r ffaith nad ydi'r anghydfod yma rhwng y PRS a'i haelodau yng Nghymru wedi ei ddatrys yn achos pryder i ni ac rydym yn cydymdeimlo gyda nhw.

"Ond PRS sydd yn penderfynu ar ddosrannu taliadau - nid y 91热爆 - a mater iddyn nhw felly ydi trafod ymhellach gyda'u haelodau."

Newid fformiwla

Mae'r PRS yn cael ei thalu bob tro mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn gyhoeddus.

Wedyn mae'r gymdeithas yn rhannu'r t芒l ymhlith cerddorion a chyfansoddwyr y gerddoriaeth.

Yn 2007, newidiodd y PRS y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i dalu am gerddoriaeth sy'n cael ei darlledu yng Nghymru.

Yn 么l adroddiad gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 2010, byddai artistiaid sy'n darlledu eu gwaith ar Radio Cymru yn derbyn 49 ceiniog am bob munud sy'n cael eu darlledu.

Mae hynny am fod PRS yn trin Radio Cymru fel gwasanaeth radio lleol yn hytrach na darlledwr cenedlaethol.

O ganlyniad i hyn lleihaodd talu breindaliadau yng Nghymru o 拢1.6 miliwn yn 2007 i 拢260,000 yn 2009.