Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hutt yn amddiffyn cytundeb cyllid
Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi amddiffyn y cytundeb rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyllideb 拢14.5 biliwn Llywodraeth Cymru.
Mae'r cytundeb yn addo mwy o arian i'r disgyblion ysgol tlotaf gydag 拢20 miliwn oedd wedi ei arbed o wariant eleni.
Dywedodd Ms Hutt fod hynny'n dangos "rheolaeth ariannol gofalus".
Dywedodd Plaid Cymru fod y "cytundeb rhad" yn newyddion drwg, ac ychwanegodd y Ceidwadwyr fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi toriadau llym Llafur i'r Gwasanaeth Iechyd.
Daeth y cytundeb a gyhoeddwyd ddydd Gwener yn dilyn wythnosau o drafodaethau.
Pecyn swmpus
Roedd gan Lywodraeth Cymru tan ddydd Mawrth i gyflwyno cyllideb derfynol cyn y bleidlais allweddol ar Ragfyr 6 wedi i'r tair plaid arall wrthod cyllideb ddrafft Llafur.
Gydag ond 30 o'r 60 sedd yn y Cynulliad, roedd Llafur angen o leiaf un AC o'r gwrthbleidiau i gymeradwyo'r gyllideb.
Roedd Plaid Cymru wedi bod yn ceisio gorfodi "pecyn swmpus o fesurau ar gyfer swyddi a busnesau", gyda'r Ceidwadwyr am weld hwb i'r adran iechyd.
O dan y cytundeb, mae Llafur hefyd wedi cytuno i ymgynghori gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar wariant unrhyw arian ychwanegol y byddai Cymru'n ei dderbyn o ddatganiad yr hydref gan Ganghellor llywodraeth y DU ddydd Mawrth.
Tlodi plant
Dywedodd Ms Hutt fod yr arian i ddisgyblion yn gymwys a rhaglen bolisi Llafur er gwaethaf honiadau gan Plaid a'r Tor茂aid fod gweinidogion eisoes wedi gwrthod y syniad.
Dywedodd: "Rydym am sicrhau ein bod yn gweld cyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
"Mae hyn ar ben yr arian yr ydym eisoes wedi ei glustnodi er mwyn i blant fod yn gymwys am brydau bwyd am ddim yn yr ysgol.
"Rhaid i ni gydnabod fod hwn yn gysylltiad uniongyrchol gyda thaclo tlodi plant, i wella eu cyfleoedd fydd yn cael effaith uniongyrchol ar eu cyfleoedd mewn bywyd a'u sgiliau i'r dyfodol."
Bwriad Llywodraeth Cymru oedd cario'r arian ychwanegol ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf gyda chytundeb Llywodraeth y DU.
Mae'r arian yn chwyddo'r grant i ddisgyblion difreintiedig i dros 拢32m y flwyddyn nesaf.
'Cefnogaeth i doriadau'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC: "Dyw'r gyllideb anghyfrifol yma ddim yn ymateb i'r argyfwng economaidd cynyddol.
"Ac eto dyma'r llywodraeth Lafur yn dod i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol fel y gallan nhw gyflwyno cyllideb sydd ddim yn cynnwys pecyn o fesurau i helpu pobl Cymru drwy amddiffyn a chreu swyddi a chefnogi busnesau."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Yr hyn sy'n drist o amlwg yw cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o doriadau llym Llafur i'r GIG.
"Rydym eisoes yn gwybod y bydd y gyllideb hon yn rhwygo cannoedd o filiynau o bunnau o'n gwasanaeth iechyd pan mae targedau amseroedd aros eisoes yn cael eu methu, swyddi gwag ddim yn cael eu llenwi, a staff rheng flaen yn cael eu diswyddo."
Ond mae un undeb athrawon wedi croesawu'r arian ychwanegol i ddisgyblion tlotach.
Dywedodd cyfarwyddwr ATL Cymru, Dr Philip Dixon: "Bydd yr arian ychwanegol yn helpu ysgolion i hybu'r gefnogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, ac yn mynd rhan o'r ffordd tuag at gau'r bwlch cyllido rhwng gwariant y pen ar ddisgyblion yng Nghymru a Lloegr.
"Ein plant yw ein dyfodol ac mae buddsoddiad ynddyn nhw yn fuddsoddiad i bawb. Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn haeddu clod am sicrhau fod ein plant, yn enwedig y rhai mewn angen, yn cael dechrau gwell i'w bywydau."