Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen edrych ar gysondeb strategaeth economaidd y llywodraeth'
Mae arbenigwr ar economi Cymru wedi codi cwestiynau am gysondeb strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a hynny ar sail gwariant yn ystod pum mis cynta'r flwyddyn ariannol.
Mae dadansoddiad gan 91热爆 Cymru wedi dangos fod rhai cwmn茂au yn dal i dderbyn grantiau nad oes yn rhaid eu had-dalu, rai misoedd ar 么l i strategaeth economaidd newydd argymell cael gwared arnyn nhw.
Mae'r rheini yn cynnwys grant o bron i 拢200,000 tuag at agor gwesty 'boutique' newydd yng nghanol Caerdydd.
Ymhlith cwmn茂au eraill i dderbyn grantiau yr oedd The Authentic Curry Company; Bragdy Rhymni a nifer o gyflogwyr mawr fel Toyota a Corus.
Yn 么l Dr Martin Rhisiart, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd Ysgol Fusnes Morgannwg, mae'n anodd dod at wraidd strategaeth y llywodraeth, ar sail gwariant hyd yma eleni.
"Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn hwn - oes yna gydlynu digonol fan hyn - a beth yw'r neges sy'n cael eu rhoi i'r mwyafrif mawr o fusnesau Cymru?
"Y math yna o eglurdeb sydd ei angen a dwi'n credu y byddai cwmn茂au Cymru i gyd yn gwerthfawrogi tir gwastad ble mae rheolau'r g锚m yr un peth i bawb," meddai.
'Dryswch'
Fe ychwanegodd fod yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd ymhlith busnesau ynglyn 芒 strategaeth y llywodraeth o gefnogi rhai sectorau'n benodol yn yr economi Gymreig.
"Mae cyfathrebu'n allweddol," meddai.
"Mae yna rywfaint o ddryswch o hyd, dwi'n credu, o fewn y gymuned fusnes ynglyn 芒 pha mor gaeth yw'r sectorau yma, a beth sy'n debyg o ddigwydd iddyn nhw dros y blynyddoedd i ddod."
Ond mae'r dadansoddiad o'r gwariant wnaed yn gyhoeddus gan y llywodraeth ers mis Ebrill yn dangos bod mwyafrif yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "grantiau cyfredol i'r sector breifat" wedi ei roi i gynghorau, prifysgolion a chymdeithasau tai, yn hytrach na busnesau.
Mae 91热爆 Cymru wedi bod wrthi'n astudio'r ffigyrau a gyhoeddwyd ar y we gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gofnod o wariant ar bethau sydd wedi costio dros 拢25,000.
Fe gafodd perchennog gwesty yng Nghaerdydd, Jolyon Joseph, grant o 拢189,000 gan y llywodraeth tuag at gost troi adeilad gwag ar Heol y Gadeirlan yn westy moethus.
Fe wnaeth yr arian a gafodd wahaniaeth enfawr i'r profiad roedd yn gallu ei gynnig i ymwelwyr 芒 Chymru, meddai.
"Mae'r arian, i bob pwrpas, wedi troi adeilad a gwesty digon plaen yn lle Cymreig sy'n ysblennydd, rhywiol, anghyffredin.
"Mae'n adeilad hyfryd a hardd, a llawer o ofal ac o ofal wedi'i roi yn y gwaith ailwampio."
'Cefngoaeth allweddol'
Cynllun arall sydd wedi cael grantiau gan y llywodraeth yw Fferm Ffwrnais yn Nyffryn Conwy.
Y disgwyl yw y bydd y casgliad o adeiladau fferm o'r 18fed Ganrif ar Stad Bodnant yn agor gwanwyn nesaf fel canolfan newydd i fwyd Cymreig.
Yn 么l y perchennog, Michael McLaren, roedd cefnogaeth y llywodraeth yn allweddol i'r prosiect.
"Drwyddi draw mae'r prosiect yn mynd i gostio rhywle rhwng 拢6-拢7 miliwn ond rydyn ni'n aruthrol o lwcus i fod wedi cael grant sylweddol o Ewrop a chan Lywodraeth Cymru, rhyw ychydig dros 拢3 miliwn ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben amdano.
"Yn syml iawn, hebddo fe, fyddai'r cynllun yma ddim wedi digwydd a phe na bae wedi digwydd, fydden ni ddim yn creu'r hyn sy'n cyfateb i 40 o swyddi amser llawn a fydden ni ddim yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud i hybu bwyd Cymru ac i broffil bwyd Cymreig yn yr ardal hon."
Wrth ymateb i sylwadau Dr Rhisiart fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein strategaeth economaidd yn glir ac wedi'i ffocysu ar sectorau allweddol sydd 芒'r potensial i dyfu a llewyrchu yng Nghymru.
"Mae'r syniad yma o weithio drwy sectorau yn caniat谩u i ni dargedu'n harian tuag at ddiwydiannau allweddol, sydd o bwys mawr mewn cyfnod pan fo gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri gan Whitehall.
"Fe ychwanegwyd tair sector yn ddiweddar i greu naw sy'n cael blaenoriaeth, gan gynnwys twristiaeth, adeiladu a bwyd a ffermio, fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad mawr maen nhw hefyd yn wneud i economi Cymru."
Mewn cyfres o adroddiadau drwy gydol yr wythnos fe fydd 91热爆 Cymru hefyd yn edrych ar wariant Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd a thrafnidiaeth.