Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arddangos cynllun pier Bae Colwyn
Mae gan y cyhoedd gyfle i leisio barn ar ddatblygiad gwerth miliynau o bunnau i ailddatblygu pier hanesyddol Bae Colwyn.
Mae'r ymgynghoriad yn rhan o broses gan gr诺p di-elw, Shore Thing, ac mae'n rhaid ei gynnal cyn gwneud cais am arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Ond hyd yma, dyw'r ddadl yngl欧n 芒 phwy yw perchennog y pier ddim wedi ei datrys.
Mae'r pier wedi bod ar gau ers i'r cyn-berchennog fynd yn fethdalwr ym mis Gorffennaf 2008.
Daeth y pier o dan ofal ymddiriedolwr methdaliad, ond ni wnaeth ddangos unrhyw ddiddordeb yn y pier cofrestredig Gradd 2 ac fe gafodd ei drosglwyddo i Stad y Goron.
Datgan diddordeb
Mae gan bobl neu grwpiau sydd 芒 diddordeb mewn prynu'r pier gyfle i wneud cynnig i gyfreithwyr Stad y Goron.
Dywedodd y cyn-berchennog, Steve Hunt, ym mis Awst ei fod yn credu y dylai'r pier nawr fod yn eiddo iddo ef unwaith eto.
Ond mae Cyngor Conwy wedi datgan diddordeb ffurfiol yn y pier, ac yn cefnogi'r cynllun gan y cyfarwyddwyr gwirfoddol tu cefn i Shore Thing.
Bydd eu cynlluniau nhw yn cael eu harddangos yng nghanolfan Bay View ddydd Mawrth a dydd Mercher, ac fe fydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y dyfodol.
Dywedodd y cadeirydd, Jay Martin, fod y cynllun yn cynnwys t欧 bwyta gyda golygfeydd dros y bae uwchben theatr pafiliwn wedi ei adnewyddu, a llwybr cerdded gwydr sy'n dangos pensaern茂aeth y pier.
Ymhlith y cynlluniau eraill mae dwsin o safleoedd manwerthu ar flaen y pier at ddefnydd busnesau eraill ynghyd a chanolfan addysg a han
Cafodd Pier Victoria ei agor ym Mehefin 1900, a dros y blynyddoedd wedi bod yn gartref i berfformiadau gan artistiaid mor wahanol 芒 Morcambe and Wise, Harry Secombe ac Elvis Costello.
Dywed Mr Martin ei bod hi'n bryd uwchraddio'r pier gan fod y gwaith o ailddatblygu'r glan mor fel rhan o gynllun amddiffyn yr arfordir eisoes wedi dechrau.
"Mae'r gwaith yna wedi rhoi symbyliad newydd, felly nawr yw'r amser i wneud rhywbeth," meddai Mr Martin.
"Mae'r mwyafrif am weld rhywbeth yn cael ei wneud gyda'r pier."
Cafodd achos busnes Shore Thing ei lunio gan ymgynghorwyr treftadaeth a thwristiaeth.
Cawson nhw'u comisiynu gan gr诺p cymunedol a sicrhaodd 拢35,000 gan gwmni ynni RWE NPower Renewables a Chyngor Tref Bae Colwyn.es.