S4C yn 'gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015'

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bydd Huw Jones yn s么n am weledigaeth S4C am y pedair blynedd nesaf

Mae disgwyl i Huw Jones ddweud ddydd Mawrth y bydd S4C yn "gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015".

Bydd Cadeirydd Awdurdod S4C ymhlith sawl un fydd yn annerch cynhadledd undydd am ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Sefydliad Materion Cymreig sy'n cynnal y gynhadledd wrth i'r diwydiant wynebu cyfnod anodd.

Mae'r 91热爆 yn wynebu toriadau cyllid ac mae 'na ffrae am ariannu S4C ac ITV yn cynnig llai o wasanaethau yng Nghymru.

Yn 么l y sefydliad, mae 'na ymwybyddiaeth nad oes digon o ddylanwad o Gymru dros bolisi.

Cyd-weithio

Mae'n gyfnod o newid yn y diwydiant wrth i 91热爆 Cymru ac S4C gael arweinwyr newydd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn annog mwy o gydweithio rhwng y 91热爆 ac S4C yn ogystal 芒 cheisio hybu teledu lleol.

Fe fydd 'na drafod am yr hyn sy'n wynebu'r diwydiant yn ystod y 10 mlynedd nesaf yn y gynhadledd.

Mae disgwyl i Mr Jones, Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005, egluro y bydd y sefydliad yn aml-gyfryngol ac yn gyfrifol am gomisiynu a darlledu cynnwys gwreiddiol fydd yn gyfraniad pwysig "i ddiwylliant deniadol a chyfoethog drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg".

'Pellgyrhaeddol'

"Fe fydd yn hwyluso mynediad i'r gwasanaeth i'r rhai hynny sydd ddim yn siarad Cymraeg.

"Fe fydd y sianel yn bartner effeithiol i'r 91热爆 gan reoli ei hun ond gan fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y 91热爆 am ei defnydd o arian y drwydded ac i'r llywodraeth am yr arian cyhoeddus arall."

Fe fydd Mr Jones yn dweud y bydd S4C yn 2015 yn rhan "annatod o ddatblygiad a pharhad y Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad economaidd a diwylliannol pellgyrhaeddol".

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Guy Phillips o ITV, Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, a Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis.