Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Athrofa yn cefnu ar Brifysgol Cymru
Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn rhoi'r gorau i roi graddau yn enw Prifysgol Cymru.
Golyga'r newid na fydd y sefydliad yn arddel enw Prifysgol Cymru.
UWIC yw'r ddiweddara i dorri ei chysylltiad 芒 Phrifysgol Cymru.
Mae'n dilyn cynlluniau tebyg gan Brifysgol Glynd诺r, Wrecsam, a phrifysgol Casnewydd.
Daeth y newyddion am y newidiadau mewn e-bost at staff yr athrofa.
Daw'r newyddion yn sgil ymchwiliad gan 91热爆 Cymru i honiadau o dwyll yn ymwneud 芒 fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cymwysterau wedi eu dilysu gan Brifysgol Cymru
Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi galw am ymddiswyddiad cadeirydd cyngor y brifysgol, D Hugh Thomas.
Ddydd Mercher dywedodd Mr Andrews wrth 91热爆 Cymru fod angen i'r brifysgol nawr gael 'claddedigaeth barchus'.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Uwic na fyddai'n rhan o gynllun i greu prifysgol enfawr yn y de ddwyrain drwy uno gyda Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.