Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar gadeirydd Prifysgol Cymru i ymddiswyddo
Dylai cadeirydd Prifysgol Cymru adael ei swydd yn 么l y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
Galwodd Mr Andrews am ymddiswyddiad D Hugh Thomas yn dilyn ymchwiliad 91热爆 Cymru i golegau oedd yn gwerthu cymwysterau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru.
Dywedodd Mr Andrews fod y sylw i'r mater yn niweidiol i Gymru ac na ellid caniat谩u i "gamreolaeth" danseilio'r sector addysg uwch.
Gofynnwyd i'r brifysgol ymateb i sylwadau'r gweinidog.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Andrews ei fod wedi galw sawl gwaith ar gorff llywodraethol Prifysgol Cymru i gymryd cyfrifoldeb am fethiannau ei threfniadau dilysu cymwysterau allanol.
'Niweidiol i Gymru'
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhaglen Week In Week Out 91热爆 Cymru ddatgelu bod myfyrwyr tramor wedi cael cynnig i dwyllo er mwyn cael cymwysterau fyddai'n arwain at radd Prifysgol Cymru a theitheb 么l-radd i ddod i'r DU.
Meddai Mr Andrews: "Mae'r sylw drwg sy'n gysylltiedig 芒 Phrifysgol Cymru yn niweidiol, nid dim ond i'r sefydliad ei hun, ond i'r sector addysg uwch ac i Gymru gyfan.
"Yn wyneb honiadau pellach yn y cyfryngau'r wythnos ddiwethaf, credaf nad oes modd i Brifysgol Cymru barhau o dan yr arweiniad presennol.
"Yr wythnos ddiwethaf, fe ddechreuodd Is-Ganghellor newydd ar ei waith gyda Phrifysgol Cymru a dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r Athro Medwin Hughes yn ei r么l newydd.
"Ond rwy'n galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er budd y sefydliad a Chymru.
"Nid wyf yn dweud hyn yn ysgafn, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae catalog o gamreoli yn tanseilio'r sector addysg uwch gyfan yng Nghymru."
Ymchwiliad
Yn dilyn rhaglen y 91热爆, fe alwodd pump o brifysgolion mwyaf Cymru am gael gwared 芒 brand Prifysgol Cymru.
Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU yn cynnal ymchwiliad i'r materion a godwyd yn y rhaglen.
Yna ddydd Gwener cyhoeddodd Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam na fyddai'n cynnig graddau Prifysgol Cymru mwyach, gyda Phrifysgol Casnewydd yn awgrymu y byddan nhw'n dilyn.
Ond mynnodd yr Athro Medwin Hughes mai delio gyda phroblemau Prifysgol Cymru oedd ei fwriad yn hytrach na diddymu'r brand.