Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tair prifysgol i uno dan un faner
Mae Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) wedi dweud na fydd yn uno gyda dwy brifysgol arall yn y de ddwyrain.
Mae wedi penderfynu pediod ag uno gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.
Awgrymwyd yr uniad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), y corff sy'n ariannu prifysgolion Cymru, a ddywedodd y dylid cwtogi nifer y prifysgolion o 11 i chwech.
Mae cynllun Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi'i gefnogi gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
Dywedodd yr Undeb Prifysgol a Choleg eu bod yn "pryderi" am y penderfyniad.
Ond ar 么l ymgynghori gyda staff a myfyrwyr, gwrthod y symudiad mae llywodraethwyr UWIC, gan fynnu na fyddai'r uno o fudd.
Dywedoddf Barbara Wilding, cadeirydd y llywodraethwyr: "Mae'r athrofa wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ymrwymedig i gryfhau'r system addysg uwch yn y de ddwyrain, yn arbennig yng Nghaerdydd, er budd dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn cwrdd 芒'r heriau sydd i ddod."
Ym mis Mehefin y llynedd, fe gyhoeddodd y gweinidog addysg Leighton Andrews gynllun i ail-strwythuro addysg uwch yng Nghymru, gan ddweud y byddai llai o brifysgolion erbyn 2013.
Bu trafodaethau i uno Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2003, ond wnaeth hynny ddim digwydd.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach bu trafodaethau rhwng llywodraethwyr UWIC a Phrifysgol Cymru Casnewydd gyda'r bwriad o uno ym Medi 2006, ond unwaith eto methwyd a chael y maen i'r wal.