Yr oedd y gynulleidfa ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar ei thraed yn cymeradwyo pan ymddangosodd Ray Gravell yn gwbl annisgwyl ar y llwyfan heno.
Mewn awyrgylch llawn emosiwn, hwn oedd ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers iddo gael triniaeth feddygol a cholli ei goes.
Yn dilyn ei eiriau agoriadol;
"Foneddigion, boneddigesau, fechgyn a merched - yr ieuenctid. Wrth gwrs yr ieuenctid yw dyfodol ein cenedl ni,"
yr oedd dan gymaint o deimlad, bu'n rhaid iddo oedi am rai eiliadau cyn gallu parhau 芒'i anerchiad.
"Esgusodwch fi am funud, am eiliad neu ddwy," meddai cyn mynd ymlaen a dweud:
"Doeddwn i ddim yn disgwyl y fath groeso - derbyniad.
"Dydw i ddim yn haeddu hyn ond diolch.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn dros y misoedd diwethaf a dyma fy ymddangosiad cyhoeddus swyddogol cyntaf i ers gadael Ysbyty Glangwili ar 么l derbyn triniaeth a gofal arbennig gan y staff yno.
"Ga i ddiolch iddyn nhw am y gofal. Diolch yn fawr iawn," meddai.
Cyflwyno gwobrYr oedd ar y llwyfan er mwyn cyflwyno tlws Gwobr Talent 91热爆 Radio Cymru i Sion Ifan, prif fachgen Ysgol Bro Myrddin, sydd yn fab i'r actor Emyr Wyn.
Ond ni wyddai'r gynulleidfa mai'r cyflwynydd radio a chyn chwaraewr rygbi a fyddai'n cyflwyno'r tlws hwnnw nes iddo ymdangos ar y llwyfan.
Yr oedd yr achlysur gyda'r mwyaf emosiynol erioed yn hanes yr Eisteddfod gyda'r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo a chroesawu.
Dywedodd Ray Gravell iddo benderfynu peidio 芒 gwisgo crys Sgarlets Llanelli ar gyfer yr achlysur oherwydd iddo weld cymaint o'r rheini ar y llwyfan yn ystod yr wythnos.
Gwisgodd yn hytrach ei dei Owain Glyndwr.
Datgelodd hefyd mai dim ond unwaith o'r blaen y bu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd - yn 1989 pan gafodd ei berswadio gan "yr annwyl Norah Isaac" i ymuno 芒 pharti plant.
Ond doedd hwnnw ddim yn achlysur cwbl lwyddiannus iddo, meddai, gan iddo ganu allan o diwn!
.