|
|
91热爆 91热爆page Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
Straeon'Bragu' Ginis i'r gerddi!Mwydod prysur maes yr Urdd
'Diod' gwahanol sy'n cael ei gynhyrchu ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon yw "Ginis i'r gerddi," - hylif sy'n win adfywiol i bob gardd mewn gwendid.
Mae'r hylif du yn cael ei gynhyrchu gan fyddin o fwydod - neu lyngyr daear - y tu allan i safle Cyngor Sir Caerfyrddin. Y cyfan yn rhan o ymgyrch werdd gan y Cyngor i berswadio pobl i gompostio. Ac un ffordd o brysuro'r broses honno yw trwy ychwanegu mwydod at wastraff t欧 ac ati gan fod hynny nid yn unig yn troi'r gwastraff yn gompost mewn byr amser ond hefyd yn ychwanegu protin a gynhyrchir gan y mwydod. Ond fel yr eglurodd Geraint Bevan o Adran Addysg y Cyngor Sir mae hefyd sug yn ymgasglu y gellir ei gasglu ac ychwanegu d诺r ato i wrteithio gerddi. "Dim ond un rhan o hwn sydd ei angen ar gyfer deg rhan o dd诺r," meddai gan ychwanegu ei fod, "Fel Guinness i'r gerddi!" Mae Geraint yn cydweithio'n agos ag ysgolion y sir - pob un ohonyn nhw wedi cael bin compostio ac y mae rhaglen ar gyfer darparu mwydodfeydd (wormeries)hefyd. Hefyd gall trigolion y sir brynu biniau compost am gyn lleied a 拢10 ar gyfer eu cartrefi. Dywedodd Geraint i gryn ddiddordeb gael ei ddangos gan oedolion a phlant fel ei gilydd yn yr arddangosfa ar faes yr Eisteddfod. "Maen nhw'n holi llawer ac yn gofyn am gyngor ac eraill yn barod i rannu eu profiadau," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |