|
|
![]() | ![]() 91热爆 91热爆page Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
禄 | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 | ![]() |
Straeon![]() GwurddioniMynd yn goch, gwyn
Mae'r Urdd wedi cymryd camau i weld beth yn union yw 么l troed garbon Eisteddfod Genedlaethol y mudiad.
Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Bangor fel rhan o gynllun dwy flynedd rhwng yr Urdd ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru i daclo newid hinsawdd. "Yr ydym yn gobeithio y bydd hynny yn arwain at leihau costau yr Eisteddfod," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd. ![]() Bydd yr Urdd hefyd yn penodi cydlynydd a fydd yn dod ag amryw o ymgyrchoedd dyngarol yr Urdd - gan gynnwys newid hinsawdd - at ei gilydd. Yn fater difrifol "Y mae'r Urdd yn sylweddoli fod newid hinsawdd yn fater difrifol iawn ac yn un y mae plant a phobl ifainc yn ei gymryd o ddifrif," meddai Efa Gruffudd Jones. Yn bresennol i roi s锚l ei fendith ar y cytundeb ag Asiantaeth yr Amgylchedd yr oedd Chris Mills y cyfarwyddwr a ddywedodd nad oedd 'nunlle gwell i gychwyn ar y gwaith o greu ymwybyddiaeth "na lle mae dros gan mil o bobl ifainc yn dod at ei gilydd." I'r diben hwnnw bydd y mudiad Dau o bob tri "Mewn arolwg diweddar a gomisiynwyd, dangoswyd bod dau o bob tri o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn gwneud rhywbeth i daclo newid hinsawdd. Mae pobl yn dechrau cael y neges ei bod hi'n gyfrifoldeb ar bawb, ac y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth, ond mae dal i fod digon i'w wneud," meddai. Ychwanegodd mai newid hinsawdd fydd yn cael prif sylw Dydd Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, Mehefin 5. "Mae gennym weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y bydd y rheiny sy'n ymweld 芒'r Eisteddfod yn ei rhannu - lle gwell i bobl a bywyd gwyllt, ar gyfer y genhedlaeth bresennol a'r nesaf," meddai. Biniau ar y maes Ac meddai Efa Gruffudd Jones: "Drwy'r ymgyrch yma mae'r Urdd yn gallu gweithredu. Un o brif amcanion y prosiect fydd trosglwyddo'r neges i'n haelodau y gallan nhw hefyd, ar lefel bersonol, a chymunedol, weithredu." Gwelwyd camu tuag at yr Urdd goch, gwyn a gwyrdd-gwyrdd, yn yr Eisteddfod eleni gyda biniau ailgylchu ar y maes. Hefyd darparwyd cynghorion ar gyfer sut i becynnu bwyd i ddod i'r Eisteddfod heb ddefnyddio pethau fel 'clingfilm'. Cysylltiadau
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |