|
|
![]() | ![]() 91热爆 91热爆page Cymru'r Byd | ![]() | |||||||||
![]() | |||||||||||
禄 | ![]() | ||||||||||
![]() |
| ![]() | |||||||||
![]() | Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 | ![]() |
Straeon![]() Ennill cadair trwy FfenestrCrys T yn ymestyniad o'r gerdd . . .
Yr oedd y crys T a wisgai bardd cadeiriol Eisteddfod Sir G芒r ar y llwyfan yn ymestyniad meddai o'r gerdd a enillodd y gadair iddo.
Ac yr oedd wedi ei smwddio ar gyfer y diwrnod ganddo ef - a'i fam wedyn! "I wneud yn si诺r ei fod yn edrych yn wyn, wyn," meddai Hywel Griffiths am y crys Cymdeithas yr Iaith 芒'r geiriau "Deddf Iaith Newydd". ![]() Dywedodd fod y ffenestr yn y gerdd, y mae person yn edrych trwyddi ar y byd yn drosiad o'r apathi sydd rhyngddo a'r byd go iawn. "Gan fod y gerdd yn s么n am wleidyddiaeth ac yn s么n am apathi roeddwn i eisiau cyfeirio at y ffaith fod apathi cyffredinol yn thema i'r gerdd a bod y gerdd yn awgrymu mai gweithredu anghyfansoddiadol yw'r ffordd i dorri ar yr apathi," meddai wrth egluro pam y gwisgodd y crys T arbennig hwn. "Dyna yw pwynt y gerdd a dweud y gwir ac roeddwn eisiau gwisgo i wneud datganiad clir," ychwanegodd. Yr oedd hon yn gystadleuaeth lle'r oedd y tri a ddaeth i'r brig yn gyfeillion agos sy'n cystadlu'n gyson yn erbyn ei gilydd. Roedd Hywel yn fuddugol ddwy flynedd yn 么l a threchu ei athro barddol Eurig Salisbury oedd yn fuddugol y flwyddyn ganlynol ond a wthiwyd i'r ail safle eleni eto. Iwan Rhys oedd yn y trydydd safle eleni, a'r tri yn gwybod eu bod yn cystadlu. "Yn amlwg gyda phobl roeddwn yn eu gweld yn eithaf aml fel nhw fe fuom ni'n trafod y gystadleuaeth ond doedd yna ddim llawer o drafod pynciau na beth oeddem ni'n mynd i sgrifennu," meddai. Dywedodd mai astudio barddoniaeth yn yr ysgol a'i fwynhau fu'r symbyliad cyntaf iddo ef ddechrau barddoni ei hun. "Ac roedd barddoniaeth, llenyddiaeth a llyfrau bob amser yn bwysig adref ac rwy'n darllen ers yn ieuanc iawn - ac wedyn rydych yn meddwl, 'Wel wn芒i drio'i wneud e'n hun'," meddai. Ond dywedodd ei bod yn cymryd "dipyn o ymdrech" iddo gyfansoddi a bod beirdd eraill yn cyfansoddi'n gyflymach nag ef. Ar gyfer y gystadleuaeth hon dywedodd iddo ddechrau meddwl am y testun tua Thachwedd diwethaf a'i droi a'i drosi yn ei feddwl dros y Nadolig. ![]() Ac yntau wedi ennill un o'r cadeiriau eisteddfodol harddaf ers blynyddoedd yr oedd yn hael ei ganmoliaeth iddi gan gyfaddef iddo oedi rhywfaint i'w hedmygu pan oedd yn cael ei harddangos mewn ffenest siop yng Nghaerfyrddin "Fe fues i'n cerdded heibio yn syllu - ond wnes i ddim aros o gwmpas!" meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
![]() | ![]() About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |