|
|
91热爆 91热爆page Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonMwynhau'r sioe blantPlant ysgolion cynradd yn disgleirio mewn sioe lwyfan. Pafiliwn llawn dop o famau, tadau, brodyr a chwiorydd balch iawn ar ail noson perfformiad y disgyblion ysgolion cynradd yn y sioe O Bren Braf. A finnau yn eu canol yn disgwyl sioe liwgar ac egn茂ol iawn gan blant Shir G芒r. Roedd hi'n braf gweld y llwyfan yn llawn plant wedi eu gwisgo'n lliwgar yn agor y sioe gyda'r g芒n 'O Bren Braf.' Gosodwyd gefndir y stori yn syth ei bod hi'n ddechrau gwyliau haf a'r plant yn edrych ymlaen at wythnosau o ryddid a chael mwynhau gyda'u ffrindiau. Mae'r stori O Bren Braf, a sgriptiwyd gan Elinor Wyn Reynolds, yn gwyrdroi o gwmpas coeden hud. Stori ddigon syml ydyw, gyda gwers i'w dysgu yn y diwedd.
颁锚蝉测蝉 Yna daw'r criw o ferched gan ddarganfod yr un goeden. Ddim yn credu mewn ffantasi ac edrych yn 么l i'r gorffennol, mae'r merched yn gweld y llecyn yn le delfrydol i "iste i siarad," "dod 芒 chlystogau i fod yn gyfforddus" i gael defnyddio eu ff么nau symudol a gwrando ar Lilly Allen ar eu iPods. Yn amlwg felly, fel sy'n digwydd rhwng gangiau o ferched a bechgyn ifanc - mae na wrthdaro rhwng y ddau griw. Teimlais er mor arbennig oedd actio'r plant, pob un o'r prif gymeriadau yn geirio'n glir, roedd na ormod o ddeialog ar brydiau, a'r sgript yn gallu bod yn chwithig, er enghraifft, "ma ishe i chi ddeffro a gwynto'r coffi." Dw i'n amau y byddai plentyn yn defnyddio ymadrodd o'r fath. Er mi roedd na ymdrech deg i gynnwys geirfa plant heddiw ar brydiau eraill. O ystyried mai sioe blant oedd hon, bysai wedi bod yn braf i gael llawer mwy o ganu a dawnsio - yn bennaf er mwyn rhoi mwy o gyfle i blant y corws gael dod i'r llwyfan i fwynhau perfformio. Ond hefyd er mwyn y gynulleidfa - weithiau roedd rhywun yn diflasu ar y deialog hir ac yn ysu i weld mwy o symud. Roedd y caneuon yn swynol a rhai'n gofiadwy hefyd, byddai wedi bod yn braf clywed mwy o gerddoriaeth Euros Rhys Evans. Roedd y coreograffi yn wan ac yn ddi-fflach ar brydiau. Er bod y plant yn rhoi o'u holl egni i'r dawnsio, doedd dim llawer o 么l dychymyg yn y creu.
Hiwmor Wrth i'r stori fynd yn ei blaen mae'r merched a'r bechgyn yn gweld bygythiad i'r goeden a'u bod yn colli eu perchnogaeth arni. Daw'r wasg a'r cyfryngau (o raglen deledu 'Wedi Mynd'!) i glywed am y goeden hud ryfeddol, yn ogystal 芒'r gwyddonwyr, datblygwyr archfarchnad, twristiaid ac yn y blaen. Erbyn hyn gwelant werth gweithio gyda'i gilydd fel un gang, er mwyn cael gwared ar y bobl hyn. A dyma'r wers oedd i'w dysgu. Roedd y diweddglo yn arbennig - llond llwyfan unwaith eto a ch芒n gofiadwy. Y plant yn amlwg yn mwynhau'r profiad yn fawr a dyna mae'n si诺r oedd prif nod y sioe. Tipyn o gamp mi dybia i, yw cynhyrchu sioe lwyfan o safon uchel gyda bron i ddau gant o blant o dan un ar ddeg oed, a rhaid canmol pob un o'r t卯m cynhyrchu am wneud hynny. Wythnosau o ymarferion caled yn gweld pinacl ar lwyfan yr Urdd a llawer o ddisgyblion o ysgolion bach gwledig Shir G芒r yn cael cyfle na fydden nhw'n breuddwydio ei gael heblaw am yr Eisteddfod hon. Gwych o beth yw hynny. Rwy'n si诺r y gwelwn ni lawer o'r wynebau hyn ar lwyfannau'r Urdd a thu hwnt yn y dyfodol a chware teg iddyn nhw wir. Da iawn blant Sir G芒r! Cysylltiadau
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |