91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Huw Edwards

Llywydd dydd Gwener

Huw Edwards - wyneb y newyddion

Mae Huw Edwards yn un o brif gyflwynwyr Newyddion y 91热爆 ac yn cyflwyno'r rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar 91热爆 1 yn ogystal 芒 rhaglen awr am 5pm ar 91热爆 News 24.

Fe'i magwyd yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, ac aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli. Graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru, Caerdydd cyn mynd ymlaen i fod yn gyflwynydd ar orsaf radio fasnachol, Sain Abertawe.

Yn 1984 ymunodd 芒 chynllun hyfforddi'r 91热爆 a chymryd ei gam cyntaf tuag at fod yn newyddiadurwr.

Rhwng Mai 1999 ac Ionawr 2003, cyflwynodd y newyddion am chwech o'r gloch ar 91热爆 1 ac yn 2002 enwyd ef yn brif gyflwynydd y rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar y 91热爆, y rhaglen sy'n cael ei gwylio gan y nifer fwyaf o bobl ym Mhrydain.

Mae hefyd wedi cyflwyno a chyfrannu at nifer o raglenni eraill fel Newsnight, Panorama a rhaglenni noson etholiadau.

Yn 2003 gwnaed ef yn Gymrawd ym Mhrifysgol Cymru, ac yn 2005 daeth yn Athro er Anrhydedd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn Noddwr y Coleg Cerdd Cenedlaethol.

Mae'n organydd ac yn bianydd ac ar un adeg a'i olwg ar fynd yn bianydd cyngerdd proffesiynol.

Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni yn ymwneud 芒 chrefydd, cerddoriaeth glasurol, a rhaglenni am yr iaith Gymraeg.

Mae'n briod a chanddo bump o blant. Mae'n byw gyda'i deulu yn Llundain.

Meddai Huw, "Bum yn cystadlu lawer gwaith yn Eisteddfod yr Urdd. Enillais gyda gr诺p drama Ysgol Ramadeg Llanelli ddwywaith! Mae cael bod yn Llywydd y Dydd yn bleser anghyffredin yn enwedig gan fy mod i'n cael dod adref i Sir G芒r - y sir orau yng Nghymru o bell ffordd!" meddai.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy