91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Efa Gruffudd Jones

Gwell lle i Dlws y Cerddor

Statws newydd i brif gerddor yr Urdd

Bydd seremoni Tlws y Cerddor yn cael gwell lle yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf pryd y bydd yn cael ei llwyfannu yr un adeg o'r dydd 芒'r prif seremon茂au eraill am ddau o'r gloch.

Dros y blynyddoedd bu'r seremoni hon ar y llwyfan nos Wener yr Eisteddfod.

Ond er mwyn codi statws y cerddor bydd yn rhaid lladd prif seremoni arall.

"Mae tlws y cerddor yn cael ei feirniadu ar hyn o bryd nos Wener, sydd ddim yn rhoi digon o statws iddo - felly fe fydd y seremoni hon yn awr yn cael ei chynnal yr adeg y mae Tlws y Fedal Lenyddiaeth yn cael ei chynnal yn awr" meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

Coron yn unig
Ond ychwanegodd nad yw hynny'n golygu y bydd sgrifenwyr rhyddiaith ar eu colled.

"Yr ydym yn cynnig y goron am dri darn o waith llenyddol mewn ffurfiau gwahanol ac mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei rhoi am gasgliad ryddiaith a beth sydd wedi bod yn digwydd yw fod casgliadau hynod o debyg yn myd i'r Fedal ac i'r Goron ac mae fel pe byddai rhyddiaith wedi bod yn cael dwy wobr - felly o hyn ymlaen fydd rhyddiaith ddim ond yn cael un brif wobr - sef y Goron," meddai.

Dywedodd nad yw wedi derbyn cwynion am y penderfyniad hwn.

"Mae'r rhestr testunau wedi bod allan ers rhyw fis a dydw i ddim wedi cael unrhyw gwynion," meddai.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy