Bum ar gwrs Cymraeg yn Indianola, Iowa Gorffenaf 13 - 20, 2008. Tre fach daclus ydy Indianola. Gerllaw mae'r fan lle ganwyd John Wayne.
Trefnwyd y cwrs gan Gymdeithas Madog. Mae cwrs Cymraeg yn cael ei gynnal ganddi hi am wythnos mewn lle gwahanol bob blwyddyn ers dros 30 mlynedd.
Ces i gyfle i'w fynychu am y tro cynta eleni.
Caethon ni wythnos lawn iawn: dosbarthiadau, gweithdai o'ch dewis, Twmpath dawns - mi wnes i fwynhau dawnsio'n fawr er bod fy mhengliniau'n brifo tipyn wedyn! - côr, gwibdaith i weld "covered bridges" a lle geni John Wayne, noson gwis, ffilm Cymraeg - Solomon and Gaenor - yr Eisteddfod, Noson Lawen a gwasanaeth boreol.
Daeth tri o diwtoriaid o Gymru a phedwar o Ogledd America ac roedden nhw i gyd yn ardderchog.
Roedd '54 o ddysgwyr ar lefelau gwahanol o'r Unol Daleithiau a Canada. Mae nifer ohonyn nhw wedi bod ar y cwrs droeon.
Rôn i ar lefel 7 ac roedd 'na naw ohonon ni. Geraint Wilson-Price - Cyfarwyddwr Canolfan Gymraeg i Oedolion, Canolfan Gwent - oedd y tiwtor.
Roedd ein dosbarth ni'n hollol Gymraeg. Mi wnaethon ni "wrando a deall" gan ddefnyddio rhaglenni Radio Cymru, trafod pynciau amrywiol efo partneriaid a gwaith gramadegol.
Sgen i ddim cyfleoedd i siarad Cymraeg lle dw i'n byw yn Oklahoma ar wahân i Skype. Felly roedd yn hyfryd cael gwneud popeth yn Gymraeg yn y dosbarth.
Yr Eisteddfod oedd uchafbwynt y cwrs. Mewn gwisgoedd gwynion - dillad gwely a thyweli, a dweud y gwir! - wnaeth y tiwtoriaid gymryd rhan fel Gorsedd y Beirdd.
Mi wnaeth llawer o ddysgwyr gystadlu i ennill y Gadair (tua throedfedd) a gafodd ei gwneud yng Nghymru ar gyfer yr achlysur.
Ginny Grove o Colorado oedd yr enillydd.
Ar ôl gwledd wych, cawsom Noson Lawen. Roedd 'na sgitiau, côr, offeryn cerddorol, adroddiad storiâu, ac yn y blaen.
Ces i hwyl yn chwarae sgit y dosbarth a chwaraeodd Geraint ran John Wayne!.
Roedd yn hyfryd clywed y côr yn canu Aderyn Pur a Myfanwy hefyd. Mi wnaethon ni orffen y noson wrth ganu Hen Wlad Fy Nhadau.
Gwasanaeth dwyieithog oedd rhaglen ola'r cwrs ddydd Sul. Ar ôl pregeth gan y Parch. Deian Evans o Toronto oedd yn un o'r tiwtoriaid, roedd pawb dipyn yn drist wrth ffarwelio.
Yn Edmonton, Alberta, Canada, y bydd y cwrs y flwyddyn nesa. Ac mae Madog yn gobeithio mynd ag ef i Gymru yn 2010!
Lle bynnag y bydd, mae'n siŵr o fod yn wythnos lawn o hwyl.
|