Beth yw pryder? Pryder yw'r gair Cymraeg am 'anxiety'. Rydyn ni'n defnyddio'r gair 'becso' yn Gymraeg hefyd.
Mae pawb yn pryderu neu'n becso am rywbeth. Rydyn ni'n teimlo'n bryderus wrth i ni ddod ar draws rhywbeth sy'n codi ofn arnon ni. Mae arholiadau yn enghraifft dda. Rydyn ni i gyd yn poeni amdanyn nhw ac yn dweud wrth ein hunain "Fi'n gwbod bo fi'n mynd i ffaelu pob un." Wrth i ni gerdded i mewn i'r neuadd i chwilio am ein desg, mae ein calonnau'n dechrau rasio a'n dwylo'n dechrau chwysu.
Mae becso tamed bach yn gwneud lles i ni. Beth arall fyddai'n gwneud i ni adolygu ar gyfer yr arholiadau?
Ond weithiau, mae pobol yn becso gymaint nes bo' nhw'n gwneud eu hunain yn s芒l. Os wyt ti'n ateb 'Ydw' i unrhyw rai o'r cwestiynau hyn, falle bo' ti'n becso gormod:
- Wyt ti'n treulio llawer o amser yn becso am bethau?
- Wyt ti'n becso am bethau sydd ddim yn poeni pobol eraill o gwbwl?
- Wyt ti wedi dechrau osgoi sefyllfaoedd sy'n gwneud i ti fecso?
- Wyt ti'n teimlo bod becso am bethau yn dechrau sbwylio dy fywyd di?
Paid meddwl bo' ti'n od. Mae tua un person allan o bob 20 yn becso gormod am bethau rywbryd neu'i gilydd. Weithiau, mae pethau'n digwydd sy'n gwneud i ni ddechrau becso am bethau. Rhieni'n gwahanu, rhywun yn marw, salwch, bwlio. Mae digwyddiad cas fel hyn yn gallu gwneud i ni deimlo'n ddiflas. Ac wedyn, ni'n dechrau becso am bethau eraill. Dyw hyn ddim yn meddwl bo' ni'n colli'r plot, a gallwn ni ddysgu sut i ddelio 芒'r peth.
Tria rai o'r rhain: Anadlu'n ddwfn. Anadla i mewn am 3 eiliad, ac yna anadla allan drwy'r trwyn am 3 eiliad. Arhosa am 3 eiliad, yna gwna'r un peth eto. Tria anadlu drwy dy stumog ac nid dy frest. Tria anadlu fel hyn am 5 munud. Ti'n gweld y gwahaniaeth?
Dweud na wrth gaff卯n, alcohol a sigar茅ts. Cliria dy ben. A does dim angen dweud wrthot ti am beidio potsian 芒 chyffuriau - ma' nhw'n chwarae hafoc 芒 dy ben di.
Gwneud ymarfer corff. Y ffordd orau o ymlacio ond paid gofyn i fi pam. Felly, bant 芒 ti i'r gym.
Peidio canolbwyntio ar y pethau drwg. Bob tro y byddi di'n meddwl am rywbeth gwael fel "Sai'n gallu neud maths", meddylia am rywbeth da fel "Fi'n gallu syrffo fel y boi".
Gwneud rhestr o'r holl bethau sy'n dy boeni di. Tria groesi un peth i ffwrdd o'r rhestr bob wythnos. Dim ond un. Gan bwyll bach.
A chofia: Heddi yw'r fory r么n ni'n poeni gymaint amdano ddoe. A doedd hynny ddim wedi gwneud unrhyw les i ni.
Os wyt ti'n dal i fecso am bawb a phopeth... Gofynna am help. Mae cynghorwyr yn ffantastig i'n helpu ni i ymlacio a pheidio poeni gormod am bethau. Cer i siarad 芒'r meddyg a gofynna sut i ddod o hyd i gynghorydd yn dy ardal di. Falle bod un yn gweithio yn yr ysgol. Byddi di'n synnu faint o help sydd ar gael.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.