![Pa mor hyderus wyt ti?](/staticarchive/16a5e3ece9a6cb511c8a3894004fe757e0bb37c8.jpg)
Er mwyn dod yn berson mwy hyderus darllena bump rheol aur Mosgito.
1. Bydd yn barod i edrych yn y drych a bod yn hapus gyda'r person sy'n edrych yn 么l arnat ti.
2. Paid 芒 meddwl gormod am sut mae pobl eraill yn dy weld di a chanolbwyntia ar fod yn ti dy hun.
3. Bydd yn falch o'r hyn wyt ti, y darnau da a'r darnau drwg.
4.Gwylia rhag mynd yn or-ddibynnol ar bethau da mae pobl yn ddweud amdanat ti. Mae hyder yn dod o'r tu mewn. O beidio 芒 dibynnu ar 'compliments' fyddi di ddim yn cael dy effeithio mor ddrwg pan fydd pobl yn dy feirniadu di.
5. Bydd yn ymwybodol o dy botensial di a'r hyn y galli di eu gwneud, ond ar yr un pryd, bydd yn realistig. Mae gan bawb ei derfyn a'i le yn y byd.
Munud i feddwl Mosgito
- Mae'r ateb yn rhyfedd o syml. Bydd yn barod i fod yn ti dy hun ac fe ddaw dy hyder o'r tu mewn
Aeth Mosgito ati i holi tri pherson ifanc enwog am sut mae canfod dy hunanhyder. Einir Dafydd, enillydd C芒n i Gymru 2007, Mari Lovgreen sy'n cyflwyno Uned 5 a'r bardd Eurig Salisbury.
Mari Lovgreen: "I mi, y gyfrinach i hunanhyder ydy bod yn hapus efo pwy wyt ti. Mae mor syml 芒 hynny."
Eurig Salisbury: "Dwi'n meddwl fod gwisgo'n hyderus yn bwysig. Gwisgo dillad smart a chyfforddus. Gwneud yn si诺r fod fy nghwiff gwallt yn uchel fydda i'n ei wneud! Ond y peth pwysicaf yw dy fod ti'n gwneud digon o wenu. Mae pawb yn edrych ac yn teimlo'n well wrth wenu."
Einir Dafydd: "Does dim angen bod ofn dim na neb, achos does 'na neb yn well na'i gilydd ar y ddaear 'ma. Mae'n bwysig cymryd pob siawns a chyfle alli di, a bydd dy hyder di'n tyfu o hynny."
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.