![Iwan Griffiths sy'n s么n am fywyd bechgyn](/staticarchive/76c1ac0a24cf27f909587616559c45a49b032d35.jpg)
Mae Iwan Griffiths, uchod, yn gyflwynydd ar raglen Ffeil. Aeth criw Mosgito am goffi gydag e i glywed am ei atgofion o'r ysgol a'r newidiadau corfforol a meddyliol sy'n digwydd i fechgyn yn eu harddegau ...
Mosgito: Wyt ti'n cofio pryd newidiodd agwedd bechgyn yn dy ysgol at ferched?
Iwan: Mae'n rhyfedd sut rydych chi'n cas谩u bod yn agos at ferch pan ry'ch chi'n ifanc iawn, ac yna unwaith rydyn ni fechgyn yn tyfu, ma' pethau'n newid yn ddifrifol! Yn fy mhrofiad i, mae'n gr锚t cael cylch o ffrindiau da sy'n fechgyn achos eu bod nhw'n mynd trwy'r un profiadau 芒 chi. Ond, mae'n bwysig cael merch neu ferched fel ffrindiau agos hefyd.
Mosgito: Pam mae hi'n bwysig i fechgyn gael ffrindiau da sy'n ferched?
Iwan: Wel, am ryw reswm maen nhw'n aeddfedu'n fwy cloi na ni fechgyn ac felly maen nhw'n gallu rhoi cyngor call ar broblemau mawr bywyd. Hefyd mae'n rhoi cyfle i chi ddod i'w deall nhw - maen nhw'n wahanol iawn i ni!
Mosgito: Mae cyrff bechgyn yn newid yn eu harddegau hefyd. Beth sydd gen ti i'w ddweud am hyn?
Dw i'n cofio pan dorrodd fy llais, a phan nes i newid o fod yn Soprano i fod yn F芒s.
Dw i'n cofio pan dorrodd fy llais, a phan nes i newid o fod yn Soprano i fod yn F芒s. Digwyddodd hyn dros nos bron - roedd e'n brofiad hunllefus! Gan fod hyn wedi digwydd i fi cyn i nifer o'r bois eraill ei brofi, roedd pawb yn tynnu sylw ata i ac roedd y sefyllfa'n eithaf embarrassing. Ydy, mae'n anodd ond, yn y diwedd, fe fydd e'n digwydd i bawb yn eu tro ac mae pawb yn yr un cwch!
Mosgito: Oes gen ti gyngor i fechgyn sydd eisiau cadw'n heini yn eu harddegau?
Iwan: Mae bechgyn ifanc iawn yn gallu byw bywyd heb boeni am edrych ar 么l y corff ac ati. Ond mae pethau'n newid yn gyflym iawn, ac fel digwyddodd i fi, mae'r bola'n tyfu, ac mae'r pwysau'n cynyddu! Y peth gorau i'w wneud yw ymarfer corff fel rhan o fywyd bob dydd. Hynny yw, mwynhau gwneud chwaraeon gyda ffrindiau yn gyson. Mae cadw'n ffit yn rhywbeth hollol hanfodol er mwyn cadw'n hapus.
Nawr, gan fy mod i'n gweithio yn swyddfa Ffeil bob dydd, mae'n anoddach chwarae p锚l-droed amser cinio ac ati, ond mae gen i ffrindie da, a dw i'n cwrdd 芒 nhw'n rheolaidd er mwyn mynd i'r gampfa. Mae cadw'n ffit fel hyn, wrth fwynhau gyda ffrindie, yn bwysig iawn.
Cysylltiadau defnyddiol
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.