Yr arwyddion Galw enwau ar rywun, bwrw rhywun, dweud celwyddau am rywun, dwyn wrth rywun, gadael rhywun mas a throi ffrindiau rhywun yn ei erbyn - mae'r rhain i gyd yn fathau o fwlio. Galli di gael dy fwlio hefyd drwy negeseuon tecst cas neu ar-lein.
-
Mewn arolwg, dywedodd 83% o athrawon bo' nhw heb weld unrhyw un yn cael ei fwlio yn ystod y 12 mis diwethaf.
Arolwg Cenedlaethol o Fwlio 2006
Beth ddylet ti wneud?
- Siarada 芒 rhywun am y peth. Mae hawl 'da ti i fyw dy fywyd heb gael dy boeni. Tria gadw dyddiadur o'r holl bethau mae'r bwli yn eu gwneud i ti. Bydd hyn yn dy helpu i benderfynu beth i wneud. Trwy gadw dyddiadur, galli di fod yn si诺r bo' ti ddim yn anghofio unrhyw beth pwysig. Bydd cadw dyddiadur yn helpu i ddangos bo' ti'n dweud y gwir hefyd.
Os wyt ti'n cael negeseuon tecst neu alwadau ff么n cas, cadwa'r negeseuon a'r rhestr o alwadau os oes digon o le ar dy ff么n. Os nad oes digon o le ar dy ff么n, gwna nodyn o amser yr alwad/tecst, beth gafodd ei ddweud/ei ysgrifennu, a rhif y bwli (os yw'r rhif yn cael ei ddangos ar dy ff么n). Paid ateb unrhyw negeseuon tecst - dyna beth mae'r bwli am i ti wneud.
Os wyt ti'n cael dy fwlio mewn 'stafell sgwrsio ar-lein, paid ymateb i unrhyw sylwadau cas. Enwa'r bwli yn gyhoeddus er mwyn codi cywilydd arno. Gwna'n si诺r bod pawb sy'n defnyddio'r 'stafell sgwrsio yn gwbod pwy sy'n dy fwlio fel y gallan nhw dy helpu di. Fel arfer, mae 'stafelloedd sgwrsio da yn cael eu monitro. Felly, galli di gwyno am y bwli trwy anfon e-bost at y bobol sy'n gyfrifol am fonitro'r 'stafell sgwrsio. Cofia gynnwys enghreifftiau o'r pethau mae'r bwli wedi dweud.
Ble galla i droi?
Dwed wrth gymaint o bobol ag y galli di. Weithiau, mae dweud wrth bobol eraill yn gallu bod yn ddigon i stopio'r bwlis. Os wyt ti'n cael dy fwlio yn yr ysgol, dylai unrhyw un o'r athrawon fod yn gallu dy helpu di. (Dylai fod gan dy ysgol bolisi atal bwlio). Os nad wyt ti ishe siarad 芒'r athrawon, gofynna i dy rieni neu i oedolyn arall siarad 芒 nhw. Os nad wyt ti'n teimlo bo' ti'n gallu troi at unrhyw un, mae llawer o wefannau a llinellau cymorth ar gael sy'n gallu helpu.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.