![Helpu ffrindiau mewn trwbwl](/staticarchive/d03ef86fd9b7552c82ce40b8830fcd8fba05e81b.jpg)
Helpu ffrindiau sydd mewn trwbwl
Ffrind mewn angen Os yw dy ffrind mewn trwbwl o unrhyw fath, cofia na alli di ddatrys y broblem, na bod yn gyfrifol am yr hyn ma' fe neu hi'n ei wneud. Ond galli di fod 'na i'w helpu trwy bethau.
Sut i wrando'n iawn
- Cymera dy ffrind o ddifri (hyd yn oed os nad yw'r broblem yn swnio mor ddifrifol 芒 hynny i ti). Paid ag wfftio a dweud pethau fel, "Byddi di'n teimlo'n well yn y bore" neu "Gwena!"
- Paid 芒 theimlo bod rhaid i ti gynnig atebion. Mae jyst gwrando yn ddigon i helpu dy ffrind.
- Annog dy ffrind i siarad 芒 phobol eraill hefyd. Gallet ti gynnig mynd gyda fe neu hi i siarad ag oedolyn rydych chi'n ei drystio.
- Paid 芒 cholli amynedd. Falle bod dy ffrind yn boen ar brydiau neu ishe llonydd o hyd, ond dalia ati i ofyn iddo fe neu hi fynd mas 'da ti, a chofia ddweud wrtho fe neu hi y byddi di wastad 'na. Paid 芒 cheisio gorfodi dy ffrind i fod yn hapus.
- Yr help gorau y gall ffrind ei roi yw 'jyst bod yno'. Arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, Ebrill 2007
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.