Pwysau gan gyfoedion
Dy gyfoedion yw'r bobol sydd o'r un oed a statws 芒 ti. Weithiau, ti'n gallu teimlo dan bwysau i wneud rhywbeth achos bo' nhw wedi dy berswadio di, neu achos bod pawb arall yn ei wneud e' a ti'n ofni y byddi di'n edrych fel twpsyn os nad wyt ti'n gwneud yr un peth.
Ydy e'n beth drwg? Galli di ddysgu lot gan dy gyfoedion. Gallan nhw dy helpu di i ddatblygu dy dalentau a dy helpu a dy annog i lwyddo. Ar y llaw arall, ma' pobol yn gallu teimlo dan bwysau i wneud pethau sy'n ddrwg iddyn nhw fel smygu, mitsio neu ddwyn o siopau.
- Ma' person ifanc yn fwy tebygol o dorri'r gyfraith os oes 'da fe ffrindiau sydd wedi bod mewn trwbwl 'da'r heddlu. Rizer.co.uk
Beth i'w wneud Byddi di'n profi pwysau gan gyfoedion drwy dy fywyd, ond fe fyddi di un cam ar y blaen os ddysgi di sut i ddelio ag e' nawr.
- Dewisa dy ffrindiau'n ddoeth. Canolbwyntia ar ddatblygu cyfeillgarwch cadarn gyda phobol sydd 芒'r un gwerthoedd a syniadau 芒 ti. Ma' cael un ffrind sy'n barod i gefnogi ti pan ti ishe mynd yn erbyn pawb arall yn gallu bod yn help mawr.
- Bydd yn gryf: jyst gwna be' ti'n meddwl sy'n iawn. Bydd ffrindiau da yn dy barchu di am fod yn wahanol. Byddi di'n teimlo'n falch o dy hun hefyd os wyt ti'n sefyll lan dros rywbeth rwyt ti'n credu'n gryf ynddo.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.