Wyt ti a dy ffrind yn ffraeo drwy'r amser? Tria feddwl pam. Wyt ti'n amddiffynnol (yn meddwl bod dy ffrind yn pigo arnot ti drwy'r amser)? Neu ydy dy ffrind yn dy drin di'n wael ac yn dy gymryd yn ganiataol?
Tria gymryd cam bach n么l: sut mae eich cyfeillgarwch yn edrych i bobol eraill? Siarada gyda dy ffrind. Dwed wrtho/wrthi bo' ti'n cas谩u cweryla, bod eich cyfeillgarwch yn bwysig i ti a bo' ti ishe i bopeth fod yn iawn. Siarada'n araf ac yn dawel, a pl卯s, peidiwch 芒 dechrau cwympo mas 'to.
- Mae merched yn llawer mwy tebygol o gadw mewn cysylltiad 芒'u ffrindiau ysgol na bechgyn.Arolwg Friends Reunited 2005
Dy ffrind sydd ar fai... Os wyt ti dal ishe bod yn ffrindiau, mae angen i chi siarad am y peth. Os yw dy ffrind yn teimlo'n euog, bydd yn cytuno i ddod i gyfarfod 芒 ti os wyt ti'n gofyn. Gallet ti ddechrau'r sgwrs drwy ddweud rhywbeth fel "Nes di rili brifo fy nheimladau i". Tria peidio 芒 chodi dy lais na chynhyrfu wrth siarad.
Dy fai di yw e... Y peth cynta i wneud yw dweud sori. Falle bydd rhaid i ti wneud hynny mwy nag unwaith. Bydd yn onest ac yn agored. Dwed bod gan dy ffrind berffaith hawl i fod yn grac 'da ti, dwed bod eich cyfeillgarwch yn bwysig iawn i ti a bo' ti methu credu bo' ti wedi gwneud smonach o bethau. Os nad yw dy ffrind yn barod i faddau i ti, bydd rhaid i ti dderbyn hynny. Alli di ddim dal ati i ymddiheuro am byth.
Os nad wyt ti ishe bod yn ffrindiau rhagor.... Bydd yn gwrtais, ond cadwa dy bellter. Gobeithio y bydd hynny'n ddigon. Os yw dy ffrind yn gofyn "Wyt ti ishe bod yn ffrindiau o hyd?" eglura bo' ti'n meddwl bod e neu hi yn berson rili neis, ond bo' ti methu cario mlaen fel hyn. (Gyda llaw, rhyngot ti a dy ffrind mae'r broblem, felly paid cynnwys unrhyw ffrindiau eraill yn hyn. Gallai hynny edrych fel bwlio.)
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.