![Sut i fachu](/staticarchive/76860408c42645e09451b50c6e2f88231c59f06b.jpg)
Cer amdani Ti 'di treulio wythnosau yn syllu arno neu arni ar draws y cant卯n. Ond rhywsut neu'i gilydd dyw e neu hi ddim wedi sylwi arnot ti. Felly beth am gymryd siawns? Cofia - dwyt ti ddim yn dal pysgodyn os nad wyt ti'n pysgota!
Cadwa hyn mewn cof Byddai'r rhan fwya o bobol wrth eu bodd pe bai rhywun arall yn cymryd y cam cynta, felly cadwa hynny mewn cof ar y diwrnod mawr. Dewisa amser pan mae'r un rwyt ti'n ei ffans茂o ar ei ben ei hun - fel dy fod di'n cael ei sylw i gyd heb fod ei ffrindiau'n piffian chwerthin yn y cefndir.
Bydd yn naturiol Paid 芒 bod yn rhy 'full on'. A phaid 芒 defnyddio unrhyw chat up lines naff - neu fe fyddi di'n si诺r o swnio'n wirion.
- Mewn arolwg diweddar un o'r chat-up lines mwyaf llwyddiannus oedd: "Beth yw dy hoff dopin pitsa?" Newyddion 91热爆, Ebrill 2006
Mae pawb wrth eu bodd yn cael eu seboni (ac nid yn y bath) felly gwna iddo fe neu hi deimlo'n dda drwy ddweud pethau neis. Wedyn, cymer anadl fawr a... gofyn.
Os mai 'na' yw'r ateb Paid 芒 siomi gormod a phaid 芒 bod ofn trio eto.
Falle bod e neu hi wedi dweud na am sawl rheswm: falle bod e neu'n hi'n rhy swil, neu'n mynd mas 'da rhywun yn barod neu falle bod ei ffrind yn dy ffans茂o di. Beth bynnag yw'r rheswm, byddan nhw mor falch bod rhywun yn eu ffans茂o fyddan nhw ddim ishe bod yn gas i ti.
Ac ar 么l i ti wneud e unwaith, byddi di'n sylweddoli bod e' ddim mor ofnadwy ag r么t ti'n feddwl. Felly, paid 芒 gwastraffu amser? Cer amdani!
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.