Beth yw e'? Ma' gweithredu ac ymgyrchu yn meddwl gwneud rhywbeth er mwyn creu newid.
Fel arfer mae e'n ymwneud 芒 mater dadleuol. Gall hwn fod yn fater rhyngwladol fel y rhyfel yn Irac, neu'n fater lleol fel adeiladu archfarchnad newydd yn dy ardal leol. Ma' gweithredu yn gallu meddwl cymryd rhan mewn rali sy' wedi'i threfnu, boicotio cynnyrch penodol (e.e. bananas sydd ddim yn rhai Masnach Deg [Fair Trade]), neu ysgrifennu at wleidyddion neu bapurau newydd.
- Y gwrthdystiad mwya' erioed ym Mhrydain oedd yr orymdaith yn erbyn rhyfel Irac yn Llundain yn 2003, lle daeth rhwng 750,000 a 2 filiwn o bobol at ei gilydd.Gwefan newyddion y 91热爆
- Os wyt ti'n teimlo'n gryf am fater rhyngwladol, cer ar y we i chwilio am unrhyw grwpiau neu elusennau sy'n ymgyrchu ar y mater.
- Beth bynnag yw'r mater, ysgrifenna lythyr neu e-bost at dy Aelod Cynulliad (AM) neu Aelod Seneddol (MP). Fe fyddi di'n si诺r o gael ateb n么l.
- Os mai mater lleol yw e, cer i weld os oes unrhyw grwpiau'n ymgyrchu yn y gymuned yn barod (trwy chwilio ar y we neu yn dy lyfrgell leol).
- Gallet ti feddwl am ddechrau gr诺p yn yr ysgol neu'r coleg hefyd.
- Galli di ddysgu am fwy o ffyrdd i gael dweud dy ddweud trwy glicio ar y lincs ar waelod y dudalen.
Beth sy' o fewn y gyfraith... Fwy neu lai, galli di ddweud a gwneud unrhyw beth ti moyn yn y wlad 'ma, os yw e' o fewn y gyfraith. Er enghraifft, galli di sefyll ar gornel stryd yn protestio yn erbyn cau canolfan ieuenctid, ond alli di ddim ysgrifennu dy neges mewn graffiti ar y wal tu 么l i ti.
Cysylltiadau defnyddiol
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.