![Swydd dros dro](/staticarchive/a807a9a01193baa77afa620586152aaf2013d69e.jpg)
![Catrin Heledd](/staticarchive/39d6f2a3d1821b54fcf8ba66b34eb23f48240c3d.jpg)
Mae'r syniad yn frawychus. Cyfarfod pobl newydd, gwneud pethau dwyt ti ddim wedi eu gwneud o'r blaen, codi am saith y bore yn ystod dy wyliau. Felly beth yn union yw'r manteision o gael swydd dros dro? Bu Mosgito'n holi Catrin Heledd, cyflwynwraig y rhaglen Ffeil i weld beth oedd ei phrofiadau hi yn ei swydd gyntaf.
Mosgito: Beth oedd dy swydd gyntaf di yn dy arddegau? Catrin Heledd: Fy swydd gyntaf i oedd bod yn weinyddes mewn caffi yn Amgueddfa Sain Ffagan. Roeddwn i'n lwcus fod criw ohonon ni'n gweithio yno. Ambell ffrind ysgol, ac ambell ffrind o'r pentref. Fe weithiais i yno dros gyfnod o dair blynedd tra mod i yn yr ysgol.
Mosgito: Dywed ychydig wrthon ni am dy brofiadau di'n gweithio yn y caffi. Catrin Heledd: Caffi'n cynnig t锚 traddodiadol Cymreig oedd e, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef mai dyna oedd y swydd waethaf yn y byd.
Ond, wedi dweud hynny, fi oedd yn gyfrifol am y beic hufen i芒 hefyd, ac roedd hynny'n waeth byth. Roeddwn i'n sefyll yno yn yr haul, gyda phob gwenynen yn Sain Ffagan yn dod i gael blas ar yr hufen i芒. Ar ben hyn, roedd yr haul yn toddi'r hufen i芒. Hunllef llwyr.
Munud i feddwl Mosgito
- Nid pawb sy'n hoffi'r syniad o weini mewn caffi neu wneud rhywbeth cyhoeddus fel gwnaeth Catrin Heledd ond mae yna swyddi rhan-amser ar gael sy'n apelio at bawb. Ac os nad wyt ti'n llwyddiannus yn cael y swydd gyntaf i ti drio amdani, dal ati. Mae'n digwydd i'r gorau ohonon ni.
Mae unrhyw swydd pan wyt ti'n ifanc yn dy ddysgu di i siarad a dod ymlaen gyda phobl newydd. Mae'n ychwanegu at dy hyder di ac mae'n rhoi cyfle i ti gyfarfod gyda phobl gwahanol i ti. Yn fwy na dim, rwyt ti'n cael blas ar annibyniaeth ac yn ennill ychydig o arian!
Mosgito: Beth fyddai dy gyngor di i bobl ifanc heddiw? Catrin Heledd: Mae unrhyw swydd dros dro yn sioc i'r system i ddechrau. Ond, o ddal ati, fe fyddi di'n dechrau mwynhau. Wrth gwrs, dyw popeth ddim yn f锚l i gyd, ond ar 么l ychydig fe fydd y pethau da am y swydd yn taflu cysgod dros unrhyw beth negyddol.
Ac wrth gwrs, mae pob swydd rwyt ti'n ei gwneud yn brofiad, yn ogystal 芒 bod yn ddefnyddiol ar gyfer dy C.V.
Cysylltiadau defnyddiol
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.