Sut mae bod yn fwy gwyrdd? Dyma syniadau Mosgito...
- Beth am gerdded i'r dref gyda ffrind yn lle dal bws?
- Cofia ddiffodd pob switsh os nad wyt ti yn yr ystafell.
- Os wyt ti'n gwneud paned o de i ti dy hun, paid 芒 llenwi'r tegell yn llawn. Mae hyn yn gwastraffu trydan.
- Cofia wneud yn si诺r nad wyt ti'n gadael y teledu a'r peiriant DVD ar 'stand-by'.
- Ailgylcha a dweud wrth bawb arall am wneud hynny hefyd.
- Ceisia fwyta bwyd lleol am nad oes yna 'filltiroedd bwyd' mawr yn perthyn iddyn nhw.
- Tro'r gwres canolog i lawr ryw ychydig yn y t欧 (cofia holi dy fam neu dad am ganiat芒d!). Bydd newid bach iawn yng ngwres y t欧 yn cael effaith fawr ar y blaned.
- Mae hedfan yn ofnadwy o wael i'r amgylchedd. Ceisia dy orau glas i fynd ar wyliau yng Nghymru.
- Cer ar y tr锚n ac ar y bws cyn teithio mewn car.
Barn bobl enwog am y blaned
Seren y S卯n Roc - Steffan Cravos "Dw i'n ymdrechu i fod yn fwy gwyrdd trwy ailgylchu gymaint ag sy'n bosib. Mae'n bwysig gwahanu gwahanol eitemau oddi wrth ei gilydd. Gwahanu'r tun, yr alwminiwm, y gwydr gwyrdd, y gwydr clir, y papur a'r plastig. Dw i hefyd yn golchi popeth yn ofalus am fod hyn yn hwyluso'r broses o ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu."
Canwr a chyfansoddwr o fri - Gwilym Morus "Mae Indiaid America yn credu y dylai pob cenhedlaeth baratoi i sicrhau bywyd a bywoliaeth i'r saith cenhedlaeth sydd yn dod ar eu holau. Tydan ni ddim hyd yn oed yn sicrhau'r gyntaf ar hyn o bryd ac mae angen i hyn newid. Hefyd, mae'n rhaid cofio nad ni sy bia'r blaned. Cywirach fysa deud mai hi sy bia ni."
Mwy gan Mosgito ... Yn syml, mae newidiadau bychain gennyt ti yn golygu newid mawr i bawb ar y blaned. Felly bwr ati i fod yn fwy gwyrdd!
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.