![Gwirfoddoli](/staticarchive/e760b8e30f41dc93e39b9e5af1aa15f16d65c6be.jpg)
Gwirfoddoli
Pam gwirfoddoli? Mae gwirfoddoli yn helpu pobol eraill, yn gwneud i ti deimlo'n dda, ac yn edrych yn gr锚t ar dy CV. A galli di ddewis faint o amser rwyt ti'n ei roi i wirfoddoli, felly does dim rhaid i ti addo gwneud gormod.
Beth i'w wneud...
- Cyn cysylltu 芒 mudiadau gwirfoddol, meddylia am beth hoffet ti wneud, pam hoffet ti ei wneud e', a faint o amser y gallet ti roi.
- Fyddet ti'n hoffi mynd i weld hen berson unwaith yr wythnos - gwneud ei siopa a chadw cwmni iddo am awr? Neu weithio mewn siop elusen? Neu helpu mewn cynllun chwarae yn ystod y gwyliau? Neu mewn canolfan sy'n gofalu am anifeiliaid? Sdim ots pa sgiliau sydd 'da ti na beth yw dy ddiddordebau di, mae'n si诺r y bydd yna waith gwirfoddol sy'n dy siwtio di.
- Chwilia am gyfleoedd ar y wefan do-it.org.uk, neu drwy'r Ganolfan Wirfoddoli leol, mae lincs ar gael ar waelod y dudalen.
- Os wyt ti dan 16 bydd llai o ddewis ar gael i ti gan fod rhai llefydd yn methu cael yswiriant ar gyfer pobol ifanc dan 16 oed.
- Mae pobol rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith gwirfoddol nag unrhyw gr诺p oedran arall. Time Bank
Rwy methu ffeindio unrhyw beth rwy'n teimlo'n frwdfrydig amdano yn fy ardal i... Beth am fod yn entrepreneur cymdeithasol a dechrau dy gr诺p dy hun. Mae gwefan Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned yn egluro sut galli di wneud hyn ac mae linc i'r wefan ar waelod y dudalen.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.