![](/staticarchive/5abfc3e182cc75d9761ec5f94eada3f8bd9f7499.jpg)
Ti'n ffans茂o sosej? Dim diolch. Dyw llysieuwyr ddim yn bwyta cig. Dim bacwn, dim chops na sosejis. Dim cyw i芒r. Dim pysgod chwaith. Ym Mhrydain, ma' tua un person o bob dau ddeg yn llysieuwr.
Dyw fegans ddim yn bwyta cig chwaith. Nac unrhyw fwyd arall sy'n cael ei wneud gan anifeiliaid. Dim wyau, dim llaeth na phethau sy'n cynnwys llaeth fel caws a menyn, na m锚l. Ma'r rhan fwya o fegans yn osgoi cynnyrch anifeiliaid (animal products) yn gyfan gwbl. Dim esgidiau lledr na chlustogau plu. Ym Mhrydain, ma' tua un oedolyn o bob pedwar cant yn fegan.
Pam ma' pobol yn dewis bod yn llysieuwyr?
Dyma'r rhesymau mwya cyffredin:
- Dyn ni ddim yn hoffi cig. Ych a fi - mae e'n ffiaidd. Chi 'di gweld sut ma' nygets yn cael eu gwneud? A beth am y cig seimllyd sy'n hongian ar spit mewn siopau cebab? Sdim angen dweud mwy.
- Dyn ni ddim yn credu y dylai anifeiliaid gael eu defnyddio na'u lladd i wneud bwyd ar gyfer pobol. Ma' anifeiliaid yn cael eu cadw dan amodau ofnadwy, ac yn cael eu trin yn greulon. A hyn i gyd er mwyn bennu lan ar bl芒t gyda sglods a sos coch.
- Ma' bwyta deiet llysieuol yn gwneud i ni deimlo'n dda - yn fwy iach ac yn fwy ffit. Ma' gan lysieuwyr lefelau colesterol is, ma' nhw'n llai tebygol o bwyso gormod ac mae e'n bosib y byddan nhw'n byw yn hirach.
- Oherwydd yr holl s么n am bethau fel CJD, E. Coli, y Ffliw Adar. Mae e'n ddigon i unrhyw un golli blas ar eu chipolata.
- Oherwydd ein credoau ysbrydol (spiritual beliefs). Er enghraifft, ma'r rhan fwya o lysieuwyr yn y byd yn bobol Hind诺.
Mae e'n swnio'n dda. A ddylen i droi'n llysieuwr? Ti sy'n dewis pa fath o ddeiet a ffordd o fyw rwyt ti'n dilyn. Ond dyma rai pethau i feddwl amdanyn nhw yn gynta:
- Teulu: Ma' coginio bwyd llysieuol yn gallu bod yn waith caled. Pwy sy'n coginio gartref? Mae e'n bryd i ti gynnig helpu. Cer i ddechrau plicio tatws!
- Iechyd: Fydd stopio bwyta cig yn sydyn yn gwneud dim lles i dy iechyd. Bydd dy gorff yn diodde. Rhaid i ni fwyta rhywbeth arall yn lle cig, bwyd sy'n cynnwys llawer o brotein fel corbys (pulses), cnau a hadau. Dylet ti feddwl am gymryd fitamins hefyd. Ma' rhai fitamins ar gael sy'n arbennig ar gyfer llysieuwyr.
- Ffrindiau: Falle bo' ti'n teimlo'n gryf am fod yn llysieuwr. Ond sdim rhaid stopio bod yn ffrindiau gyda phawb sy'n joyo byrger neu ddau. Tria osgoi dweud pethau fel "Ti'n gwbod bo' ti'n byta babi dafad!" Ond paid 芒 gadael iddyn nhw newid dy feddwl di chwaith. Rhaid i ti sefyll dros beth sy'n bwysig i ti. Falle bydd hynny'n anodd weithiau, yn enwedig pan fyddi di'n mynd i bart茂on neu'n aros gyda dy ffrindiau. Ond fe dd么n nhw i arfer 芒'r peth.
Pam nad yw pawb yn llysieuwyr? Dyma rai rhesymau pam ma' pobol yn bwyta cig: Ma' pobol i fod i fwyta popeth. Ma'n cyrff ni wedi datblygu i fwyta a threulio (digest) cig. Mae e'n hollol naturiol.
Ma' llawer o anifeiliaid yn cael eu lladd bob blwyddyn wrth dorri cnydau hefyd, fel llygod bach, pryfed ac ati.
A'r rheswm mwya: Ti 'di arogli brechdan bacwn?