91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91Èȱ¬ CymruMosgito, Joio

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

Contact Us

Trefnu gig

Sut ma' trefnu gig?

Un o'r pethau mwyaf cyffrous erioed yw trefnu gig yn dy ardal. Mae'n dod â'r bobl ifanc lleol at ei gilydd ac rwyt ti'n cael clywed bandiau gorau Cymru yn chwarae yn dy filltir sgwâr.

Criw Os nad wyt ti'n trefnu gig gyda'r Fenter Iaith Leol neu gyda rhyw gymdeithas neu'i gilydd, mae angen i ti wneud yn siŵr fod criw dibynadwy ohonoch chi'n barod i wneud y gwaith.

Dyddiad Gwna'n siŵr dy fod yn dewis dyddiad addas i gynnal y gig. Nid dyddiad sy'n mynd i wrthdaro â'r carnifal lleol ac nid dyddiad yn y gwyliau pan fydd pawb i ffwrdd.

Lleoliad Meddylia'n ofalus am y lleoliad. Mae angen i ti fynd i rywle poblogaidd. Nid rhy fawr ac nid rhy fach. Efallai y gallet ffonio tafarn boblogaidd? Neu beth am neuadd bentref?

Bandiau Mae'n bwysig dechrau'n fach. Paid â chael syniadau mawr am ofyn i'r Sibrydion a 'My Chemical Romance' i chwarae. Beth am gael bandiau ifanc yr ardal i chwarae yn y gig cyntaf? Mae Brwydr y Bandiau yn syniad da, ond bydd angen beirniaid! Hefyd, mae angen i ti wneud yn glir i'r bandiau o'r dechrau faint o arian sydd gyda ti i'w gynnig iddyn nhw am chwarae. Yn aml, mae trefnwyr gigs yn dweud y byddan nhw'n talu'r bandiau gydag unrhyw arian fydd dros ben o'r gwerthiant tocynnau ar ôl talu am leoliad a P.A. Fel hyn, dwyt ti ddim yn mynd i dy boced ti dy hun (dydy hynny ddim yn syniad da).

Pobl Bydd angen pwyso a mesur faint o bobl fydd angen arnat ti a faint fydd pris tocynnau. Y peth olaf fyddi di eisiau ydy gwneud colled. Mae angen i ti ddewis bandiau lleol poblogaidd sydd â grwpis a gwneud yn siŵr dy fod ti'n tynnu sylw at y noson.

Posteri a Hysbysebu Mae cael poster sy'n tynnu llygad yn bwysig iawn. Beth am hysbysebu ar y we? Os wnei di anfon e-bost, neges destun a gosod posteri, fe ddylai pobl gael clywed amdano. Galli di ffonio Radio Cymru er mwyn cael hysbys a rhoi'r dyddiad ar wefan C2. Ond mae hyrwyddo gigs yn waith caled cofia.

Arian Mae'n bwysig siarad gydag oedolyn am yr arian. Mae angen gwneud yn siŵr nad wyt ti'n codi gormod am bris tocyn ond mae angen i ti godi digon fel bod modd i ti dalu bandiau. Yn aml, mae tafarndai a rhai lleoliadau yn hapus i ti gael lleoliad am ddim - ond gwna'n siŵr dy fod di'n holi am y pethau hyn cyn dechrau.

System Sain Byddai'n syniad trafod gyda rhywun sydd wedi trefnu gig o'r blaen i wybod mwy am system sain. Efallai fod gan fand caredig system sain i fenthyg i ti am y noson. Mae rhai tafarndai yn cadw systemau sain hefyd.

Cyfrifoldeb Mae trefnu gig yn llawer o hwyl ond mae'n gyfrifoldeb mawr hefyd. Rhaid i ti wneud yn siŵr dy fod yn cadw at y rheolau iechyd a diogelwch. Siarada gyda'r Fenter Iaith leol er mwyn cael cyngor sut maen nhw'n mynd ati i drefnu gigs.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý