![Mae Steff yn joio teithio](/staticarchive/f4a0d723c097e82bf7aa6e44a7575952a31a5b15.jpg)
![Steffan](/staticarchive/73af6e5d19789bd32c86b4235adeae46b6a17316.jpg)
Mi ges i'r cyfle i fynd i Venzuela gan gwmni o'r enw Camre Cymru. Maen nhw'n cynnig alldeithiau tramor ar gyfer pobl ifanc i lawer iawn o wledydd diddorol.
Y lle pellaf oeddwn i wedi bod cyn hynny oedd Canada yn 2004, felly roeddwn i'n barod am y trip awyren hir dros yr Iwerydd!
Mi wnaeth yr holl brofiad bara am fis cyfan (28 diwrnod), o'r diwrnod cyntaf yn teithio yno i'r diwrnod olaf yn 么l yng Nghymru.
- Mae Venezuela yn wlad weddol fawr (bron ddwy waith y D.U.) yn Ne America. Mae Brasil, Guyana a Colombia o amgylch y wlad.
- Prifddinas y wlad ydy Caracas
- Prif iaith y wlad ydi Sbaeneg, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad gan yr Indiaid sy'n byw yno e.e. Warao.
- Poblogaeth Venezuela yw tua 30 miliwn (hanner poblogaeth Prydain)
Roedd y prosiect cynta' mewn pentref pysgota bach a gweddol dlawd lle gwnaethom ni adeiladu meinciau ar gyfer yr ysgol gynradd leol. Ein prosiect nesa oedd peintio lle chwarae.
Wedi hynny cawsom amser i ymlacio. Roeddem yn treulio rhan fwyaf o'r amser yn gorwedd ar y traeth a nofio yn y m么r cynnes neu fynd am daith yn y kayaks.
Trwy'r rhan fwyaf o'r alldaith roeddem ni'n cysgu mewn 'hammocks'. Roeddwn nhw'n gyfforddus iawn. Roedd yn od cyrraedd adref a chysgu mewn gwely eto!
Y profiad gwaethaf mae'n si诺r oedd cael fy mrathu gymaint ar fy nhraed gan bryfaid gwahanol.
Yn yr wythnos gyntaf roeddwn i'n colli bwyd adre', 'pasta bakes', cig eidion, 'cottage pie'. Wedi cyrraedd adre' roeddwn i'n colli bwyd Venezuela, yn arbennig yr empanadas, sef toes wedi ei wneud o gorn gyda 'fillings' gwahanol wedi ei ffrio mewn olew (seimllyd ond mmm...)
Neges i rywun sy'n cysidro mynd ar alldaith fel hyn ... Ewch amdani, mae'n brofiad hollol wahanol a diddorol. Mae'n rhywbeth wneith aros efo fi am amser hir iawn. O ran unrhyw bethau fyswn i'n awgrymu i chi bacio - paciwch glustog arbennig!XD
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.