![Siarad Siopa gyda Hollie](/staticarchive/0e5845019a66cd4193d6b2b4428a922612529202.jpg)
![Hollie](/staticarchive/41a9e23c595a79408f8af8dce09952d8e5a9affc.jpg)
Rwy'n caru mynd i siopa. Rwy'n mynd ddwy waith yr wythnos.
Rhan fwyaf o'r amser, rwy'n mynd gyda ffrindiau. Hefyd fy chwaer oherwydd ma' hi'n dweud y gwir am bethau rwy'n eu trio ac mae hi'n hoffi siopa am amser hir hefyd.
Rwy'n trio mynd i Lundain mor aml ag y gallai ond y lle gorau i siopa ydy'r 'fashion capital', Paris.
Mae gen i dros 60 p芒r o esgidiau - dyna fy ngwendid i!
Fel arfer, rwy'n cael cinio yn gyntaf er mwyn cael digon o egni.
Wedyn rwy'n mynd i fy hoff siopau fel Primark, H+M a Miss Selfridge. Wedyn troi i mewn i rai eraill i edrych o gwmpas. Os rwy'n edrych am rywbeth penodol byddaf yn edrych o gwmpas yn gyntaf ond os dwi jyst yn mynd i gael hwyl, rwy'n mynd i fy hoff siopiau.
Rwy'n hoffi bargen felly mae Primark a H+M yn ffefrynnau. Does dim ots gen i brynu dillad drud - ond rhaid i fi ystyried a fyddwn i'n eu gwisgo nhw eto. Rwy'n hoffi 'mix and match', fel gwisgo top o Primark a throwsus o Topshop neu o rywle drud.
Fy nghyngor i fyddai i drio pethau 'mlaen cyn gwneud eich dewis. A pheidio 芒 gwisgo brown a du efo'i gilydd! Mae'r ddau liw yn rhy dywyll. Mae caramel a du yn iawn, ta beth.
Y pethau nesa' ar fy rhestr siopa ydy gwasgod newydd a bag metaleg.
Yn fy marn i y bobl mwya' ffasiynol ar hyn o bryd ydy Kate Moss, Mary Kate Olsen, Mischa Barton a Lindsay Lohan.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.