91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91热爆 CymruMosgito, Joio

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Contact Us

Y Stilletoes

Stori'r Stilletoes

Pwy ydy 'The Stilletoes'? Dwi (Efa) yn sgrechian, canu, chwara git芒r, tynnu sylw a bod yn wirion. Mae fy mrawd bach, Iago, sy'n 13 yn chwara dryms, ac mae fy ffrind Carys yn chwara bas.

Sut wnaethoch chi ddewis yr enw? Mae'r enw yn beth reit 'random'. Roedd o'n swnio'n dda. Da ni'n ei sillafu fo'n anghywir achos roedd 'na fand yn y saithdegau o'r enw 'The Stilletos'. Er doedda ni'm yn gwybod hynny ar y pryd, ac roeddan ni di sillafu fo'n anghywir eniwe! Mae'n edrych yn well hefo'r gair 'toes' ynddo fo eniw锚 achos dydi'n traed ni ddim yn 'still' o gwbwl. Dwi'n licio symud ar y llwyfan!

Pa grwpiau sy'n dylanwadu arnat ti? Sex Pistols ydi'r prif ddylanwad arna i, jyst achos y munud wnes i glwad Never Mind The Bollocks roedd o fel bod bywyd yn gneud sens am y tro cynta'! Dwi fewn i'r s卯n pync 70au - bands fel X-Ray Spex, The Clash, Undertones, Patti Smith, Ramones a.y.y.b. Hefyd dwi'n rili licio Nirvana. Bands Cymraeg sy'n dylanwadu arnom ni ydi stwff fel Y Fflaps, Yr Anhrefn, a phethau mwy diweddar fel Kentucky AFC a Wyrligigs.

Taswn i'n marw a bysa rhaid i bobol glirio fy llofft i mae'n si诺r y bysa nhw'n ffeindio cannoedd o ganeuon dan y 'floorboards'...

Sut wyt ti'n mynd ati i gyfansoddi'r caneuon? Fel arfer maen nhw jyst yn digwydd. Mae'r geiria jyst yn dod allan, mae'n ffordd dda o gael teimladau allan, fel rhyw fath o therapi! Mae'r ysbrydoliaeth jyst yn dod o bethau sy'n fy ngneud i'n flin. Neu pan dwi'n gweld rwbath sy'n fy rhyfeddu i, dwi isio sgwennu amdano fo.

Roeddwn i'n sgwennu caneuon am hwyl hyd yn oed cyn i fi ddechra band. Taswn i'n marw a bysa rhaid i bobol glirio fy llofft i mae'n si诺r y bysa nhw'n ffeindio cannoedd o ganeuon dan y 'floorboards' - caneuon sy'n golygu dim i mi erbyn r诺an ond ella lot ar y pryd.

Beth yw dy gyngor i bobl eraill? Bod yn unigryw ydy'r peth gora. Mae 'na ormod o fands sy'n trio bod fel bandiau eraill. Be di'r pwynt? Dwi'm isio chwara mewn Sex Pistols 'cover band'. Efa dwi, nid Johnny Rotten.

Sut brofiad ydy clywed un o'ch caneuon ar y radio? Nathon ni recordio 'Pawb yn Dweud' tro cynta' aethon ni i'r stiwdio a'i rhoi hi ar MySpace y noson honno. Diwrnod wedyn roedd Huw Stephens isio'i chwara hi. Nath yr un g芒n yna wneud llwyth i ni - Bandit, Popty, Sesiwn byw i Champion 103, Sesiwn C2. Roedd o'n teimlo fel bod pethau wedi newid dros nos - roedden ni'n gorfod bod ar y we am tua 2 awr jyst i ddarllen pob neges!

Y peth gorau am chwarae mewn band? Cael deud be dwi'n feddwl, a chael fy nhalu am neud!

Y peth gwaethaf am chwarae mewn band? Dwi'm yn licio'r ffaith mod i'n methu dreifio eto. Mae'n boen hefo cyrraedd gigs!

Faint o amser ydych chi'n treulio yn ymarfer? Dim digon! Da ni'n chwara mwy o gigs na da ni'n ymarfer .....

Ble oedd eich gig gyntaf? Sut brofiad? Mewn Tafarn o'r enw Twnti yn Rhydyclafdy hefo Cowbois Rhos Botwnog tua thri mis ar 么l i ni ffurfio. Doedd gynno ni'm set yn barod o gwbwl. Nathon ni chwara'n hollol wael, ond roedd na lwyth o'n ffrindiau ni wedi dod i'n gweld ni, ac yn smalio'n bo ni wedi gneud yn iawn, felly roedda ni'n teimlo reit dda.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol? Dwi'n gobeithio am obaith!

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy