![Tyllau'n y corff](/staticarchive/201b5547bf9620dc5531b173dc1ee77eec50f9ea.jpg)
Beth yw 'piercing'? Twll bach sy'n cael ei wneud mewn rhan o'r corff er mwyn gallu rhoi tlws o ryw fath ynddo.
Sut mae'r tyllau hyn yn cael eu gwneud? Fel arfer, gwn bach sy'n cael ei ddefnyddio i wneud tyllau yn y clustiau. Nodwydd sy'n cael ei defnyddio i wneud tyllau mewn rhannau eraill o'r corff.
Ydy e'n gwneud dolur? Ydy. Mae faint o ddolur byddi di'n gael yn dibynnu ar dy allu di i gymryd poen ;). Dyw pobol sy'n gwneud piercings ddim yn cael rhoi pigiad anesthetig i ti. Gallan nhw ddefnyddio eli, wipes neu sprays i helpu i guddio'r poen. Ond dyw'r pethau hyn ddim yn helpu i atal unrhyw haint.
A fydd y twll yn mynd yn dost ac yn septig? Mae hynny'n ddigon posib. Mae'n gallu cymryd rhwng mis a blwyddyn i dwll wella. Os na fyddi di'n cadw'r twll yn l芒n yn ystod y cyfnod yma, gallet ti gael haint bacterol, ac mae perygl y byddi di'n cael craith hefyd.
- Y prif beth i'w gofio yw fod cael twll yn dy glust, trwyn neu fogel yn para am byth. Os wyt ti am osgoi salwch a haint mae'n bwysig dy fod ti'n barod i lanhau'r twll yn aml iawn gan ddilyn amserlen. Os nad wyt ti'n meddwl y byddi di'n barod i wneud hyn, fe allai fod yn fwy o drafferth nag yw o werth. Bydd gant y cant yn si诺r a chofia siarad gyda dy deulu a dy ffrindiau cyn gwneud unrhyw ddewisiadau mawr.
Mae tyllau'n gallu mynd yn dost ac yn boenus iawn. Ma' nhw'n gallu achosi abscess a gwneud drwg i'r gwaed. Mae rhai pobol wedi gorfod cael grafftiau croen hyd yn oed ar 么l i dwll fynd yn dost. Mae cael piercing lawr fan 'na yn gallu gwneud hi'n anodd ac yn boenus i biso neu gael rhyw. Os yw'r nodwydd a gafodd ei defnyddio i wneud y twll yn frwnt, fe allet ti gael Hepatitis B, Hepatitis C neu HIV.
A alla i wneud twll fy hunan 芒 nodwydd? Na, paid. Rwyt ti'n llawer mwy tebygol o gael haint neu graith os wyt ti'n gwneud y twll dy hunan.
Ble ddylwn i fynd i gael piercing?
- Chwilia am le da sy'n arbenigo yn y fath beth. Bydd lle da yn edrych yn l芒n, a bydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw lyfr sy'n dangos lluniau o gwsmeriaid blaenorol.
- Gwna'n si诺r bod y person sy'n gwneud y twll yn defnyddio menig rwber newydd a nodwyddau newydd wedi'u sterileiddio.
- Mae rhai cynghorau lleol yn cadw cofrestr o bobol sy'n addas i wneud piercings. Bydd rhif y cyngor lleol yn y llyfr ff么n.
- Ar 么l i ti gael y twll, dylet ti gael taflen sy'n egluro sut mae cadw'r twll yn l芒n.
Fi wir ishe mynd amdani Os wyt ti o dan 16 oed, dylai unrhyw le cyfrifol a da wrthod gwneud twll i ti os nad yw un o dy rieni di gyda ti. A bydd rhaid i ti fod yn 18 oed cyn y galli di gael twll yn dy nipls neu lawr fan 'na. A sdim pwynt i ti ysgrifennu llythyr caniat芒d a chop茂o llofnod dy fam ar y gwaelod - fydd e ddim yn gweithio.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...
Cysylltu
Rho dy farn - anfon dy sylwadau at Mosgito nawr!
Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.