![°Õ²¹³Ùŵ²õ](/staticarchive/2f806778291e17958e086ef43581a29ad84c24c9.jpg)
Beth yw tatŵ Marc parhaol ar y croen sy'n cael ei wneud ag inc.
Mae pobol wedi bod yn cael tatŵs ers miloedd o flynyddoedd. Mae pobol yn cael tatŵs er mwyn addurno'r corff, dangos bo' nhw'n wahanol, neu ddangos bo' nhw'n rebels. Roedd pobol yn arfer cael eu marcio â thatŵs i ddangos bo' nhw'n droseddwyr neu'n gaethweision.
Mae mwy o bobol ifanc nag erioed o'r blaen yn cael tatŵs - dwi'n beio David Beckham. Does dim lle gwag ar ôl ar ei freichiau.
Sut mae cael tatŵ Mae'r person sy'n rhoi'r tat? yn defnyddio nodwyddau i roi'r inc ar y croen. Erbyn hyn, mae'r rhan fwya o datŵs yn cael eu gwneud gan ddefnyddio peiriant trydan. Mae'r peiriant yma'n taro'r nodwyddau yn erbyn y croen rhwng 80 a 150 gwaith bob eiliad.
Ydy e'n boenus? Mae rhai pobol yn dweud ei fod e'n boenus, ac mae pobol eraill yn dweud ei fod e'n anghyfforddus. Mae llawer o bobol yn dweud bod cael tatÅ´ fel teimlo rhywbeth poeth yn crafu'r croen.
A ddylen i gael tatŵ Os oes rhaid i ti ofyn y cwestiwn - yna ddylet ti ddim cael tatŵ. Cofia bod tatŵ 'da ti am byth - sdim ots beth fyddi di'n neud neu sut bydd dy gorff di'n newid.
A oes hawl 'da fi i gael tatŵ Dylai neb roi tatŵ i unrhyw un sy'n llai nag 16 oed heb gael caniatâd y rhieni. Bydd y rhan fwyaf o lefydd yn gwrthod rhoi tatŵ i ti nes dy fod di'n 18 oed. Bydd yn barod i ddangos rhyw fath o ID i brofi bo' ti dros 18 oed.
Ble ddylwn i fynd i gael tatŵ Mae'n bwysig dod o hyd i le da a diogel i gael tatŵ.
Dyma dri pheth y galli di neud:
- Os wyt ti'n nabod rhywun sydd wedi cael un, gofynna ble roedd e neu hi wedi mynd.
- Cer i weld cymaint o lefydd ag sy'n bosib. Gofynna am weld ffeil o'u gwaith a thystysgrifau i ddangos bod y staff wedi cael hyfforddiant. Gofynna am gael gweld tystysgrifau hylendid a chymorth cyntaf hefyd. Gofynna i rywun fynd 'da ti os yw hynny'n mynd i neud i ti deimlo'n well.
- Gwranda ar y llais bach yn dy ben: ydy'r lle'n edrych ac yn arogli'n lân? Wyt ti'n gallu trystio'r person sy'n rhoi'r tatŵ - ydy e'n fodlon ateb cwestiynau ac yn egluro pethau'n dda? Os nad wyt ti'n hollol siŵr, cer i rywle arall.
Beth yw'r risgiau? Mae'r nodwyddau'n mynd o dan y croen. Felly, nodwyddau brwnt yw'r risg fwyaf gan eu bod nhw'n gallu achosi afiechydon cas fel HIV a hepatitis. Dylai'r person sy'n rhoi'r tatŵ ddefnyddio offer glân a nodwyddau newydd bob tro.
Mae gan rai pobol alergedd i'r inc sy'n cael ei ddefnyddio i wneud y tat?. Mae hwn yn gallu cymryd peth amser i ddatblygu, ond bydd y croen lle mae'r tat? yn mynd yn dost ac yn boenus. Falle bydd rhaid cael gwared â'r tatŵ.
Mae rhai tatŵs yn teimlo'n anghyfforddus yn yr haul neu pan fyddan nhw'n twymo. Ond y broblem fwyaf cyffredin yw bod pobol yn difaru cael tat?. Mae tua un o bob tri o bobol sydd wedi cael tatŵ yn difaru.
Ydy e'n bosib cael gwared â'r tatŵ Ydy, ond mae e'n broses ddrud ac mae'n gallu bod yn broses boenus iawn hefyd. Os wyt ti'n meddwl y byddi di'n newid dy feddwl yn y dyfodol, tria un dros dro. Mae rhai ohonyn nhw'n gallu edrych yn realistig iawn.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...
Cysylltu
Rho dy farn - anfon dy sylwadau at Mosgito nawr
Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.