91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91热爆 CymruMosgito, Delwedd

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Contact Us

Siafo

Siafo

Pryd ddylen i ddechrau siafo? Pan fyddi di'n teimlo'n barod neu pan fyddi di'n gweld bod y blew ar dy wyneb yn mynd yn y ffordd, yn mynd ar dy nerfau di, neu'n gwneud i ti edrych bach yn od. Cofia, dyw gwallt pawb ddim yn tyfu ar yr un cyflymder. Bydd rhai bechgyn yn gallu tyfu barf mawr pan fyddan nhw'n 12 oed, ond bydd eraill yn methu tyfu mwy na blewyn neu ddau.

Ar gyfartaledd, mae dynion rhwng 18 a 24 oed yn siafo bedair gwaith yr wythnos.

Ble ddylen i siafo? Mae'r rhan fwya o ddynion yn siafo'r blew sy'n tyfu o gwmpas eu g锚n a'u gwddf. Ond mae rhai yn siafo unrhyw flew sydd ar eu corff hefyd. Falle bod hyn yn rhan o'u diwylliant neu falle bo' nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon lle mae'n helpu os yw'r corff yn llyfn iawn e.e. nofio. Mae rhai dynion jyst yn hoffi cael croen llyfn.

Sut mae siafo? Mae'r rhan fwya o ddynion yn siafo gyda rasel arferol. Mae hyn yn cael ei alw'n wet shave achos bod rhaid gwlychu'r croen cyn rhoi foam siafo arno.

Fel arall, galli di ddefnyddio rasel drydan. Mae hyn yn cael ei alw'n dry shave achos does dim rhaid i ti wlychu'r croen os wyt ti'n defnyddio un o'r rhain. Mae raseli trydan yn gallu bod yn haws i'w defnyddio, ond maen nhw'n ddrud. Mae rhai dynion yn teimlo bod siafo gyda d诺r yn gadael eu croen yn fwy llyfn. Mae rasel drydan yn tueddu i achosi rash neu lympiau ar y croen hefyd.

Siafo - cam wrth gam

  • Gwlycha dy wyneb 芒 d诺r cynnes.
  • Rho ddigon o foam ar dy wyneb.
  • Dal y rasel yn dynn, ond paid 芒'i gwasgu'n rhy galed yn erbyn dy groen.
  • Tynna'r rasel ar hyd y croen i'r un cyfeiriad ag y mae'r blew yn tyfu.
  • Golcha dy wyneb a'r rasel 芒 d诺r oer.
  • Sycha dy wyneb drwy wasgu tywel drosto.

Sut ydw i'n gwbod i ba gyfeiriad mae'r blew yn tyfu? Mae'r blew yn tyfu ar onglau gwahanol ar wahanol rannau o'n gwyneb.

Ffeithiau am siafo

  • Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 3.5 munud i siafo.
  • Mae 84% o ddynion yn siafo uwchben y sinc. Mae 15% yn siafo yn y bath/ cawod.
  • Ar gyfartaledd, mae dynion rhwng 18 a 24 oed yn siafo bedair gwaith yr wythnos.
  • Mae 90% o ddynion yn dweud bod well ganddyn nhw groen llyfn.
Symuda dy fysedd n么l ac ymlaen dros dy groen.

Byddi di'n gweld bod hi'n fwy anodd i ti wneud hynny mewn un cyfeiriad. PAID siafo i'r cyfeiriad yma.

Problemau sy'n codi wrth siafo:

  • Torri'r croen
  • Rash
  • Sbots/blew sy'n tyfu mewn

Galli di osgoi'r problemau hyn drwy ddefnyddio:

  • Raseli gl芒n
  • Digon o foam
  • Techneg siafo dda

Mae sawl math o eli ar gael i oeri/gwella'r croen ar 么l siafo.

Siafo - celwyddau dwl Mae siafo'n gwneud i'r blew ar dy wynebau dyfu'n gyflymach/arafach.

Mae siafo'n gwneud y blew ar dy wyneb yn fwy trwchus.

Rwyt ti'n fwy o foi os oes angen i ti siafo'n aml.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy