Hynny yw: Pwyso dros 20% yn fwy na'n pwysau delfrydol. Pwyso gymaint nes bo' ni'n debygol o wneud ein hunain yn s芒l. Ma' bron i un o bob pump o bobol ifanc 15 oed ym Mhrydain yn rhy dew.
Diffiniad swyddogol: Indecs M脿s y Corff (Body Mass Index - BMI) o fwy na 30.
- 20-25 Iach
- 25-30 Rhy drwm
- > 30 Rhy dew neu obese
Beth yw BMI? BMI = ein pwysau mewn cilograms wedi'i rannu 芒'n taldra mewn metrau sgw芒r. Er enghraifft, os wyt ti'n pwyso 65 cilogram ac yn mesur 1.68 metr o daldra, galli di gyfrifo dy BMI drwy rannu 65 芒 (1.68 x 1.68) = 23.
Beth yw'r ots? Mae e'n fwy na jyst edrych yn dda. Os ydyn ni'n rhy dew, rydyn ni'n fwy tebygol o ddiodde o salwch fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a chlefyd y galon. Rydyn ni'n teimlo'n isel yn fwy aml. Rydyn ni'n fwy tebygol o ddiodde o arthritis. Ma' bod yn rhy dew yn gallu achosi rhai mathau o ganser hyd yn oed. Mae'n debyg y byddwn ni'n marw yn ifancach na phobol sy ddim yn pwyso gormod. Dyw e ddim yn beth da.
Pam bo' ni'n mynd yn rhy dew? Dim ond un peth sy'n gwneud i ni fynd yn rhy dew - bwyta mwy nag sydd ishe arnon ni. Ma' hynny'n meddwl bo' ni'n storio'r calor茂au ychwanegol fel braster.
Wrth gwrs, ma' rhai ohonon ni'n gwneud llai o ymarfer corff nag eraill. A falle bod pwyso gormod yn rhywbeth sy'n rhedeg yn y teulu. Ond y gwir yw bo' ni'n dew achos bo' ni'n bwyta mwy o fwyd nag sydd ishe arnon ni.
Dwi'n meddwl bo fi'n rhy dew, beth alla i wneud? Allwn ni ddim newid y math o gorff sydd 'da ni. Ond gallwn ni i gyd fwyta'n well a gwneud mwy o ymarfer corff. Dim jyst er mwyn edrych a theimlo'n ffantastig ond er mwyn gwneud yn si诺r bo' ni'n aros yn iach yn y dyfodol. Meddylia am y peth fel prynu polisi yswiriant bywyd.
Ond dwi'n cas谩u deiets, beth ddylwn i wneud? Ma' bwyd yn gr锚t - sneb yn hoffi starfo, a dyw 'crash deiets' ddim yn gweithio. Ma' bod ar ddeiet yn gwneud i ni deimlo'n ych - ni'n starfo, ni'n wan a ni mewn hwyl wael. Ac wedyn, rydyn ni'n rhoi'r pwysau n么l mlaen yn syth ar 么l gorffen y deiet. Felly, bydd yn gall. Tria fwyta mwy o'r pethau iawn a llai o sothach. Am byth. Dyna'i gyd sydd ishe i ti wneud - bydd dy gorff yn gofalu am bopeth arall.
A dwi'n cas谩u mynd i'r gym hefyd, beth ddylwn i wneud? Dyw pob un ddim yn hoffi chwysu peints yn y gym. Diolch byth, sdim ots 'da'n corff ni ble 欧n ni'n ymarfer. Tria wneud rhywbeth corfforol dair gwaith yr wythnos am 20 munud o leiaf - sdim ots beth yw e'.
I gloi... Paid 芒 bod yn rhy galed ar dy hun. 'Sneb yn berffaith. Ma' meddwl am fwyd o hyd yn boen yn y pen-么l. Dylai pob un gael Krispy Kreme bob hyn a hyn. A chofia, ma' bod yn rhy ysgafn yn wael i'n hiechyd hefyd. 'Sneb i fod i edrych fel Nicole Richie - dim hyd yn oed Nicole Richie ei hunan!
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.