91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91热爆 CymruMosgito, Delwedd

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Contact Us

Hunan ddelwedd

Hunan-ddelwedd

Hunan-ddelwedd ydy'r ffordd r欧n ni'n gweld ein hunain

Ni gyd yn becso bach am sut r欧n ni'n edrych. A byddai'r rhan fwya ohonon ni'n hoffi newid rhyw ran o'n corff. Sneb yn edrych yn y drych ac yn meddwl: O ie. Fi'n berffaith!

Ond ma' gan lawer ohonon ni ddelwedd negyddol iawn o'n hunain. Ni'n beirniadu'n hunain a phobol eraill yn 么l sut ma' nhw'n edrych. Ni'n hala llawer o amser yn meddwl am sut r欧n ni'n edrych.

    • Ma' 36% o fenywod yn ystyried cael llawfeddygaeth blastig (plastic surgery) achos bo' nhw'n anhapus 芒 sut ma' nhw'n edrych.
    • *Dywedodd 90% o fenywod bod y ffordd ma' nhw'n edrych yn gwneud iddyn nhw deimlo'n isel a bo' nhw'n meddwl am y peth bob dydd.(*Awst 2001 -arolwg Top Sant茅/Telegraph)
    • Dywedodd 50% o ferched ysgol bo' nhw ar ddeiet.

    Pam ma' hyn yn digwydd? Dyw e ddim jyst i wneud 芒 ffans茂o dy hun. Mae e i wneud 芒 theimlo'n ansicr ac yn dda i ddim. A dyw lluniau o selebs perffaith ym mhob magas卯n ddim yn helpu.

    Ma' selebs ym mhobman. Jyst pan r么t ti'n meddwl bod hi'n ddiogel i ti agor y papur - dyna un arall. Yn w锚n o glust i glust, gyda chorff perffaith, croen perffaith a dannedd perffaith. Ma' astudiaethau wedi dangos bo' ni'n teimlo'n llai bodlon 芒'n cyrff ar 么l i ni weld hysbysebion teledu sy'n dangos pobol denau a phrydferth.

    Ma'r un peth yn wir am ddarllen magas卯ns ffasiwn. Ma' arbrofion wedi dangos bod ffotograffau o fodels tenau iawn mewn magas卯ns yn gwneud i ni deimlo'n isel, yn stressed, yn euog, yn ansicr ac yn anfodlon 芒'n corff.

    Ond pam bo' ni'n prynu'r hen fagas卯ns ma' te!? Pam bo' ni'n gwneud hyn i'n hunain? Allwn ni ddim gweld bod y lluniau hyn wedi cael eu gwella gan gyfrifiadur? Bod y lliw haul, yr ewinedd, y dannedd, y gwallt, y b诺bs yn ffug? A'r ffaith bod 'da nhw hyfforddwr ffitrwydd a chynllunydd ffasiwn llawn amser yn gweithio iddyn nhw. Ma' nhw fel doliau bach plastig.

    Dim ond tua 1% ohonon ni sy'n gallu bod mor denau 芒 seleb siwper slim ta beth. Ar gyfartaledd ma' menywod Prydain yn gwisgo dillad maint 14/16. Meddylia am hynna, a phasia Kit Kat arall i fi.

    Mae'n bryd i ni stopio codi'n trwyn wrth edrych ar ein hunain yn y drych, a theimlo'n ych jyst achos bod dim six pack 'da ni.

    Ni gyd yn gr锚t yn ein ffordd ein hunain. Sdim rhaid edrych fel Catherine Jenkins neu Ioan Gruffydd.
    Cysylltiadau defnyddiol

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy