Swyddi'r Dyfodol yng Ngorllewin Cymru
Mae dros 200,000 o bobl mewn gwaith yng Ngorllewin Cymru. Mae'r rhagolygon swyddi ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn dangos patrwm eithaf sefydlog ond disgwylir i'r economi dyfu yn 2002.
Prif sectorau cyflogi Gorllewin Cymru
Rhain ydy'r diwydiannau sy'n cyflogi'r rhan fwyaf o bobl yng Ngorllewin Cymru. Mae llawer o swyddi'n cael eu creu gan y sectorau mawr ond mae cyfleoedd da yn y sectorau bach hefyd.
![siart pei](/staticarchive/27efc5a4c38a62ee2e83fc3a7fc216a7f5ee3905.gif)
![](/staticarchive/3d94a41965133e6ccb92dd7b4b7338c973d15b1d.gif) |
Gwasanaethau Cyhoeddus
|
![](/staticarchive/c7533c0d0ee5dfa034a2e3eff826bc4e9c92ba60.gif) |
Adeiladu
|
![](/staticarchive/20e2487ca929bc1c3b2e5dc15e9bcf990f60c09f.gif) |
Dosbarthu a Gwestai |
![](/staticarchive/5b1befdb79f215e07f67c0214a316a5a16e2a237.gif) |
Metelau, mwynau a chemegau |
![](/staticarchive/4aa0342f89c700fd6a1e3d2ae77cf646a6ebf3a3.gif) |
Gweithgynhyrchu arall |
![](/staticarchive/865895f4bdfa79a997e02acca85cfe9f6da8d2da.gif) |
Cludiant a Chysylltiadau |
![](/staticarchive/499352a798979a110b13f7a533cb01c14fb40363.gif) |
Gwasanaethau Ariannol a Busnes |
![](/staticarchive/1fc06875b97a06fc3b117da3f924884e1740b1ec.gif) |
Amaethyddiaeth |
![](/staticarchive/2af0bfff893fd63cf82889c40b7c905e1078f550.gif) |
Peirianneg |
![](/staticarchive/472bc1f852224da0105a9459266cf3a736547f89.gif) |
Mwyngloddio a'r prif wasanaethau |
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Sectorau Allweddol
Fodd bynnag, mae cyfran uwch o rai diwydiannau yng Ngorllewin Cymru nag ynunman arall yng Nghymru. Dydi hyn ddim yn golygu eu bod nhw o anghenrhaid yn cyflogi mwy o bobl, ond mae gan Orllewin Cymru fwy na'i si芒r o'r sectorau yma o'i gymharu 芒 gweddill Cymru.
1. Puro tanwydd
2. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
3. Metelau, e.e. cynhyrchu haearn a dur sylfaenol
4. Offer ar gyfer y diwydiant trafnidiaeth, e.e. cynhyrchu ceir
5. Mwyngloddio o fath arall, e.e. chwareli
6. Cludiant, e.e. rheilffyrdd a bysiau
7. Cysylltiadau, e.e. telegyfathrebu
8. Amddiffyn a Gweinyddu Cyhoeddus, e.e. cyrff rheoli a gweithgaredd amddiffyn
9. Iechyd
10. Cyfanwerthu
Ffynhonnell: Yn deillio o Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Rhagolygon Pum Mlynedd
Dyma'r diwydiannau sy'n debyg o dyfu o ran nifer swyddi yn y 5 mlynedd nesaf:
1. Gwasanaethau cyhoeddus
Rhagwelir 2,500 o swyddi newydd.
Bydd cynnydd yn y swyddi yma yn bennaf wrth i fwy o bobl gael eu cyflogi ym maes iechyd cyhoeddus a byd addysg.
2. Peirianneg Rhagwelir 200 o swyddi newydd. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu peiriannau sy'n cael eu defnyddio ym mhrosesau cynhyrchu cwmn茂au eraill. Rhai o'r nwyddau a gynhyrchir ydy offer trydanol ac optegol fel offer cyfathrebu, offer meddygol a pheiriannau optegol manwl-gywir.
3.Gweithgynhyrchu arall
Rhagwelir 100 o swyddi newydd.
Mae'r sector yma'n cynnwys elfennau fel ailgylchu, sy'n tyfu oherwydd pryder pobl ynglyn 芒 gwaredu gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r sector hefyd yn cynnwys nwyddau mor amrywiol 芒 dodrefn swyddfa, tegannau, nwyddau chwaraeon a gemwaith.
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Cofiwch, bydd llawer o swyddi eraill yn cael eu creu yn y sectorau yma a'r rhan fwyaf o'r sectorau eraill wrth i bobl ymddeol a newid swyddi.
|