13 Tachwedd 2008
Rhan 5: Grahame Davies yn ysgrifennu am y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn 1865.
Y Wladfa: y freuddwyd yn parhau ar 么l 150 o flynyddoedd
Aeth Ann-Marie Brierly i'r Wladfa fel athrawes yn 2001. Un o'i disgyblion oedd Fabio Lewis, yr oedd ei hen dad-cu, Lewis Davies, wedi dod draw ar y Mimosa.
Yn fuan iawn, roedd perthynas Fabio 芒 hen wlad ei dadau wedi cyrraedd lefel annisgwyl, a phriododd ef ac Ann-Marie yn ei phentref yn Ne Cymru yn Haf 2003.
"Tybed beth fyddai fy hen dad-cu a mam-gu wedi meddwl o wybod bod rhan fechan ohonyn nhw wedi dod yn 么l i Gymru i wneud cartref yma," medd Fabio.
Nawr mae Fabio ac Ann-Marie yn trefnu teithiau yn y Wladfa ar gyfer y niferoedd cynyddol o bobl o Gymru sy'n gwneud y daith 8,000 o filltiroedd.
Gall yr ymwelwyr hynny deithio'r cymunedau ag enwau Cymreig fel Trelew, Trevelin, Puerto Madryn neu hyd yn oed bentref Fabio, Dolavon. Maen nhw'n gallu cerdded strydoedd wedi'u henwi ar 么l "Miguel de Jones" (Sbaeneg am enw'r sylfaenydd, Michael D Jones), a gweld cofgolofnau i sylfaenwyr y Wladfa.
Gall ymwelwyr fynd i wasanaeth yn un o'r capeli Cymraeg, cael blas ar y te a'r bara brith yn un o'r tai te Cymraeg niferus, crwydro o gwmpas cylch yr Orsedd yn Gaiman, neu fynychu un o'r eisteddfodau niferus - bellach yn Sbaeneg ac yn Gymraeg - sy'n ffynnu o hyd.
Ac os ydyn nhw'n siarad 'iaith y nefoedd', gallen nhw dreulio amser gydag un o'r bobl helaeth sy'n siarad y Gymraeg o hyd yn y gornel hon o Dde America, lle profodd breuddwydion a chariad pobl at eu diwylliant a'u crefydd i fod yn drech nag anialwch.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.