Capeli, tai te a gauchos
13 Tachwedd 2008
Grahame Davies sy'n ysgrifennu am y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn 1865.
Penderfynu ymfudo
Wrth hedfan dros anialwch Patagonia, cannoedd o filltiroedd o dirwedd ddinodwedd a sych, mae'n anodd deall yr hyn ysgogodd pobl i ymfudo i Batagonia yn yr Ariannin, a gadael mynyddoedd a chymoedd gleision Cymru ar eu h么l.
Weithiau gall breuddwydion fod yn drech na realiti. Er gwaethaf pob disgwyl, llwyddodd y Gwladfawyr i wneud eu ffordd yn y lle digroeso yma, ac yn fwy na 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae eu disgynyddion yno o hyd, 20,000 ohonynt, yn arddel eu tras Gymreig, ac mae cannoedd - miloedd medd rhai - yn medru'r Gymraeg.
Er mwyn deall pam gallai anialwch yn Ne America ymddangos yn well dewis na byw yng Nghymru, mae'n rhaid gwybod beth yn union ysgogodd yr ymfudwyr cyntaf, a hwyliodd o Lerpwl yn 1865 ar long y Mimosa. Yn syml iawn, rhyddid oedd eu delfryd.
Cymraeg eu hiaith ac anghydffurfwyr yn eu crefydd, erbyn canol y 19eg ganrif, roedd hynny'n eu gwneud yn rhan o'r mwyafrif yng Nghymru. Ond nid y mwyafrif oedd yn rheoli. Os oeddech chi eisiau dod ymlaen roedd rhaid siarad y Saesneg, ac er nad oedd angen bod yn Anglicanaidd, roedd hynny'n gymorth mawr mewn gwirionedd hefyd.
Ymfudo oedd yr ateb. Ond i ble? Yn America, roedd sawl ymgais i sefydlu gwladfeydd Cymreig wedi methu wrth i'r gwladfawyr gael eu cymhathu 芒'r cymdeithasau mwyafrifol yno. Byddai'r un peth yn wir am unrhywle yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd Patagonia, serch hynny, yn ddigon pell i fwrdd - wyth mil o filltiroedd i fod yn fanwl - i osgoi unrhyw ymsefydlwyr Ewropeaidd eraill. Doedd hi ddim yn Brydeinig ac roedd Llywodraeth yr Ariannin yn fodlon gadael i ymsefydlwyr gael tir er mwyn cryfhau hawl y llywodraeth i'r ardal.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.