Lewis Jones
Er bod un o brif drefi'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia wedi ei henwi ar 么l Lewis Jones - argraffydd o Gaernarfon a groesawodd y fintai gyntaf o ymfudwyr i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865 - ychydig sydd wedi ei sgrifennu amdano.
Ef a archwiliodd y tir gyda Love Jones-Parry ac a aeth ati wedyn i annog y Cymry i ymfudo yno er mwyn sefydlu gwladfa lle gallent fyw bywyd trwyadl Gymraeg.
Dan feirniadaeth
Daeth dan feirniadaeth am eu hannog i'r fath le pan welwyd ansawdd y tir oedd ar gyfer yr ymfudwyr ac y mae'n parhau yn ddirgelwch pam yn union y'u camarweiniwyd yn y fath fodd gan Gymry mor egwyddorol.
Fodd bynnag fe gynigwyd un eglurhad posibl gan ysgolhaig o brifysgol Bangor, Dafydd Tudur, a wahoddwyd i draddodi darlith goffa gan Gymdeithas Cymru Ariannin i nodi canmlwyddiant marw Lewis Jones, ar Dachwedd 26 2004.
Awgrymodd ef i Lewis Jones sylfaenu ei sylwadau ar yr hyn a welodd yn Rio Negro a oedd yn ardal dra gwahanol i un Dyffryn Camwy, yn ffrwythlon ac yn ir.
Oherwydd hiraeth affwysol am Gymru yn ystod ymweliad i archwilio'r wlad mae'n bosib na chafodd amser i ymweld ag ardal y daethpwyd i'w hadnabod fel Dyffryn Camwy maes o law.
Ychwanegodd Dafydd Tudur o Brifysgol Bangor, mai'r hyn sy'n bwysig wrth bwyso a mesur cyfraniad Lewis Jones yw canolbwyntio ar ei gyfraniad yn dilyn y cyfnod dadleuol hwn a'r hyn y gallodd ei gyflawni er lles y Wladfa a'i phobl.
Yr oedd yn ddarlith y bu disgwyl mawr amdani ymhlith y rhai sy'n ymddiddori yn y Wladfa Gymreig gan mai bratiog iawn yw'r wybodaeth sydd yna am Lewis Jones.
"Ychydig o wybodaeth sydd yna am Lewis Jones ac ychydig iawn sydd wedi ei sgrifennu amdano," meddai Dafydd Tudur.
Daeth ef, fodd bynnag, o hyd i lawer o ffynonellau cyfoes yn sgil gwaith ymchwil mae'n ei wneud i fywyd a gwaith Michael D Jones, pennaf ysgogydd y mudo i Batagonia.
Yng Nghaernarfon y ganed Lewis Jones ond treuliodd gyfnodau yng Nghaergybi ac yn Lerpwl gan ymweld 芒 Phatagonia gyntaf yn 1862 i archwilio'r wlad gyda Love Jones-Parry o Ben Ll欧n.
Ef a ddaeth i gytundeb yngl欧n 芒'r tir gyda chynrychiolydd y llywodraeth yn Buenos Aires, Dr Rawson.
Yr oedd disgrifiadau blodeuog y ddau o'r crasdir anial a digroeso mor galonogol y perswadiwyd bron i 200 o Gymry droi cefn ar galedi a gorthrwm eu gwlad eu hunain a mudo yno ar y Mimosa.
Yno, yn eu disgwyl mewn bae a enwyd wedyn yn Borth Madryn, yr oedd Lewis Jones ac Edwin Roberts.
Yn groes i bob disgwyl, o ystyried yr olwg gyntaf a gafwyd ar y lle, bu'r ymfudo'n llwyddiant gyda'r Cymry yn dofi'r tir a'i droi'n ffrwythlon a chreu cymuned Gymraeg.
Arweinydd dylanwadol
Yno, daeth Lewis Jones yn arweinydd arloesol a dylanwadol a bydd Dafydd Tudur yn dadlau yn ei ddarlith mai dyna ei brif gyfraniad a'r prif reswm dros ei gofio.
Dewiswyd ef yn Rhaglaw'r dalaith ac ef fyddai'n dadlau dros fuddiannau'r Cymry gyda llywodraeth Ariannin.
Ond ni fu ei lwybr yn gwbl esmwyth ac fe'i carcharwyd gan yr awdurdodau oherwydd ei safiad dros hawliau'r Cymry.
Sefydlodd ddau bapur newydd Cymraeg yno, Ein Breiniad yn 1878 ac Y Drafod wedyn yn 1891 - papur sy'n dal mewn bodolaeth ac a olygwyd tan ei marwolaeth yn ddiweddar gan Irma Hughes de Jones.
Yn 1898 cyhoeddodd lyfr yn olrhain hanes y Wladfa, Y Wladfa Gymreig.
Ef oedd tad Eluned Morgan sy'n cael ei chydnabod fel prif awdur rhyddiaith y Wladfa ac ar ei 么l ef yr enwyd Trelew lle mae cerflun trawiadol ohono heddiw.
Traddododd Dafydd Tudur ei ddarlith, a noddwyd gan Yr Academi, yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd gyda'r ddarlith yng Nghaerdydd ar Dachwedd 26, union ddiwrnod marwolaeth Lewis Jones gan mlynedd yn 么l.