Effaith y Gymraeg
Er bod sawl arwydd calonogol y dyddiau hyn fod sefydliadau statudol yn yr Ariannin yn gefnogol i'r iaith Gymraeg datgelir i lywodraeth y wlad fynd ati'n fwriadol i geisio 'niwtraleiddio'r' iaith a Chymreictod ar un adeg.
Archenteiddio plant
A'r Llywodraeth sy'n cael y bai gan Walter Ariel Brooks, Cynorthwy-ydd Ymchwil a Thiwtor Iaith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am fod yn bennaf gyfrifol am y dirywiad yn y Gymraeg a'r ymdeimlad Cymreig yn y Wladfa ym Mhatagonia yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Mewn erthygl yn rhifyn mis Hydref 2008 o gylchgrawn Y Traethodydd dywed i'r Llywodraeth ddefnyddio'r ysgolion i 'Archenteiddio' plant y Cymry a'u gwneud yn Archentwyr i'r carn oherwydd ei bod yn gweld y Gymraeg fel gelyn i undod yr Ariannin.
Yn Polis茂au Addysg, Iaith a Hunaniaeth yn y Wladfa (1900-1946) dadleua fod pob pwnc yn yr ysgol gynradd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau'r ymdeimlad cenedlaethol:
"Mae modd gwneud gosodiadau gwladgarol wrth ddysgu pwnc fel Glendid hyd yn oed," meddai cyhoeddiad swyddogol y Cyngor Cenedlaethol Addysg ym 1908.
Disodli athrawon
Ac yn Nyffryn Camwy dywed i athrawon Cymreig Trelew a Gaiman gael eu disodli gan athrawon Archentaidd er mwyn sicrhau mai "Sbaeneg yn unig fyddai iaith y cyfathrebu a'r diwylliant Archentaidd, yr unig un dilys," meddai Mr Brook.
Hefyd, meddai, roedd yn rhaid i bob ysgol gadw baner yr Ariannin mewn man gweladwy, gan ei chodi cyn dechrau'r gwersi a'i thynnu i lawr ar 么l gorffen.
Gwaharddwyd unrhyw symbolau neu ddathliadau oedd yn groes i'r "ysbryd cenedlaethol Archentaidd", meddai.
Ychwanega fod deddfau eraill hefyd yn gymorth i niwtraleiddio'r rhai a allai dynnu'n groes 芒'r system a gorfodwyd dynion i wneud gwasanaeth milwrol er mwyn eu trwytho yn symbolau'r wlad newydd, ac roedd dylanwad y fyddin a'r llynges yn drwm ar ysgolion Patagonia.
O ganlyniad peidiodd llawer o Gymry ifanc 芒 siarad Cymraeg ymysg ei gilydd a chyda'u plant o fewn cenhedlaeth hyd yn oed mewn llefydd fel y capel a'r ysgol Sul.
Cefnu ar yr iaith
Bu newidiadau sosio-economaidd hefyd yn fodd i sicrhau bod y polisi yn dwyn ffrwyth a dinistriwyd statws cymdeithasol y Cymry gan newidiadau cymdeithasol fel cwymp Cwmni Masnachol y Camwy ac argyfwng economaidd y 1930au.
"Cymhellodd agwedd gul y Llywodraeth y Cymry i gefnu ar eu hiaith a'u diwylliant," meddai Mr Brook gan ddadlau i'r polis茂au addysg a'r datblygiadau sosio-economaidd gael effaith andwyol ar yr hunaniaeth Gymreig nes bod y traddodiadau Cymraeg yn anathema i'r rhan fwyaf o Gymry Patagonia erbyn Wythdegau yr ugeinfed ganrif.
Y Traethodydd yw cylchgrawn hynaf Cymru a'r Gymraeg. Fe'i cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn yn cynnwys erthyglau yn ymwneud 芒 hanes, llenyddiaeth diwinyddiaeth, athroniaeth ac yn y blaen. Gellir prynu'r Traethodydd trwy siopau llyfrau lleol neu fe ellir tanysgrifio'n flynyddol (拢3.00 y rhifyn, 拢12 y flwyddyn) trwy gysylltu 芒 Gwasg y Bwthyn, L么n Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER.