Y Chwyldro Diwydiannol - 19eg ganrif
29 Awst 2008
Dechreuodd pobl heidio i Gymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan wanhau safle'r Gymraeg yn ystod y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.
Mae'n debyg y bydd y ddadl yngl欧n ag effaith y Chwyldro Diwydiannol ar yr iaith Gymraeg, ai da neu ddrwg, yn para tra pery'r iaith.
Fe ddechreuodd diwydiant modern yn y 18fed ganrif, ac fe gyflymodd y twf drwy'r 19eg gyda'r newid o haearn i lo. Erbyn blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif yr oedd tua un o bob pedwar gweithiwr Cymreig yn l枚wr.
Ar y dechrau, Cymry oedd mwyafrif y gweithwyr oedd yn ymfudo i'r Cymoedd o'r gorllewin, canolbarth a gogledd Cymru. Cymraeg fyddai iaith bob dydd gweithwyr y ffwrnesi a'r pyllau glo. Yr oedd rhai siaradwyr Saesneg yn eu plith, ond gan fod llawer o'u cydweithwyr yn siarad dim ond Cymraeg yr oedd y mewnfudwyr yn tueddu i ddysgu'r iaith.
Yn ystod y 19eg ganrif daeth mwy a mwy o bobl i'r wlad o'r tu allan. Daeth y mwyafrif o Loegr; os wnaethant ddysgu'r iaith frodorol fe wnaethant am resymau ymarferol neu fel arwydd o ewyllys da ac awydd i integreiddio. Yn sicr doedd yna ddim rheidrwydd arnynt i wneud, sefyllfa oedd yn bodoli er 1536 a'r Cymal Iaith enwog yn y Ddeddf Uno. Saesneg oedd yr unig iaith swyddogol yng Nghymru o hyd.
Daeth dylanwadau Seisnig eraill wrth i'r rheilffyrdd a phapurau dyddiol ddod i Gymru. Roedd newyddion ar gael mewn cylchgronau Cymraeg, ond dim ond yn wythnosol neu'n fisol y cyhoeddwyd y rheini. Byddai'r trenau yn dod a phapurau o Lundain ac yn galluogi gweithiwr yn y Cymoedd i gael y newyddion diweddara am yr Ymherodraeth Brydeinig, dim ond ei fod ef neu hi yn medru darllen Saesneg.
Yng nghanol yr holl newidiadau diwydiannol gwelwyd mai Saesneg oedd iaith cynnydd. Roedd cymunedau'r Cymoedd ar flaen y gad mewn cyfnod o newid diwydiannol a chymdeithasol, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol. Doedd y Gymraeg ddim mor angenrheidiol 芒'r Saesneg yn y byd newydd hwn.
Yn yr ugain mlynedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd graddfa'r mewnfudo i'r meysydd glo Cymreig yn ail yn unig i America. Roedd hyn yn ddigon i ddisodli'r Gymraeg fel iaith y mwyafrif mewn llawer i gymuned yn Ne Cymru. Ymddangosodd athroniaeth newydd o'r enw Sosialaeth oedd yn ceisio uno'r mewnfudwr a'r gweithwyr brodorol yn un dosbarth i ennill grym gwleidyddol. Ar y cyfan nid oedd y mudiad yn poeni rhyw lawer am dynged yr iaith.
Dangosodd cyfrifiad 1911 fod y Gymraeg am y tro cyntaf ers tua 2000 o flynyddoedd yn iaith leiafrifol, yn cael ei siarad gan ddim ond 43.5% o'r boblogaeth, ffaith na chynhyrfodd fawr ddim ar y dyfroedd.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.