Pontiets a Profumo
topPan gollodd y Ceidwadwyr yr Etholiad Cyffredinol yn 1964, priodolwyd hynny i'r sgandal yn ymwneud â John Profumo, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel. Atseiniodd y sgandal honno ledled y byd ac, yn ganolog i'r cyfan, roedd merch ifanc o dde-orllewin Cymru.
Sgandal a siglodd lywodraeth
Merch o Bontiets oedd Mandy Rice-Davies, enw a gaiff ei gysylltu am byth â Christine Keeler. Rhyngddynt, sicrhaodd y ddwy y byddai'r papurau newydd yn llawn o'r slebogeiddiwch gwleidyddol mwyaf i ymddangos ar y tudalennau blaen yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf.
Roedd sgandal Profumo yn nodweddiadol o'r cyfnod. Gwelwyd diwedd culni cymharol y pumdegau a dechrau ar gyfnod o ryddid rhywiol.
Ar gyfartaledd, roedd poblogaeth Prydain yn ifanc o ran oedran; roedd babanod cyfnod diwedd y rhyfel bellach yn eu harddegau ac yn teimlo'n llai piwritanaidd ynghylch rhyw a moesoldeb.
Yn Llundain, roedd y clybiau nos yn ffynnu a phuteinio'n ddiwydiant llewyrchus.
Is-fyd y Clybiau Nos
Symudodd Mandy Rice-Davies i Birmingham yn ifanc. Edrychai'n llawer hÅ·n na'i hoedran.
Yn wir, ymddangosai mor soffistigedig fel iddi gael swydd yn 15 oed yn modelu dillad i siop Marshall and Snelgrove. Yna symudodd i Lundain lle byddai'n ymddangos yn fronnoeth yng nghlwb nos Murray's yn Soho.
Yma y cyfarfu â Christine Keeler, oedd hefyd yn fodel. Roedd honno wedi dianc o'i chartref yn 16 oed. Tueddai'r ddwy ffrind i droi mewn cylchoedd cymdeithasol neilltuol iawn, ar y naill law yng nghwmni gwleidyddion a gweision sifil ac ar y llaw arall yng nghwmni gangsters Caribïaidd.
Daeth Keeler yn ffrindiau â Stephen Ward, osteopath amlwg a fyddai, yn ei amser hamdden, yn gwneud lluniau o bobl gyfoethog.Roedd Ward yn enwog am ei bartïon gwyllt a meddw, ac ef fu'n gyfrifol am gyflwyno'r ddwy ffrind i rai o gylchoedd crachaidd Llundain.
Y Pwll a Profumo
Dechreuodd Ward a Keeler dreulio penwythnosau ym mwthyn yr Arglwydd Astor yn Cliveden, ac yn y fan honno y daethant yn ffrindiau â John Profumo.
Y tro cyntaf i'r Gweinidog weld Keeler, roedd Ward wedi trefnu iddi ddenu ei sylw drwy nofio'n noeth yn y pwll yn yr ardd. Syrthiodd y gwleidydd, a oedd eisoes yn briod â'r actores Valerie Hobson, dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Keeler.
Yn y cyfamser byddai Keeler hefyd yn treulio amser yng nghwmni Eugene Ivanov, swyddog gyda llynges Rwsia ac, yn ôl rhai, ysbïwr.
Dyma gyfnod y Rhyfel Oer, cyfnod pan ddychmygid bod Comiwnydd yn llechu o dan bob gwely, ond yn achos Ivanov nid o dan y gwely ond yn y gwely y treuliai ef y rhan fwyaf o'i amser, a hynny yng nghwmni Keeler a Rice-Davies.
Yr FBI a Rwsia
Yn ystod argyfwng Cuba dywedodd Ivanov wrth Ward fod Llywodraeth Rwsia wedi ei gyfarwyddo i drafod gyda Llywodraeth Prydain. Trefnodd Ward i William Shepherd, a oedd yn Aelod Seneddol Torïaidd, gyfarfod ag Ivanov.
Dechreuodd hwnnw amau pethau ac aeth at MI5. Yn y cyfamser roedd Keeler a Rice-Davies wedi dod i sylw'r wasg oherwydd eu perthynas â gangsters o India'r Gorllewin. Daeth yr FBI yn rhan o'r stori, gydag asiant cudd yn dilyn y ddwy ferch i bobman.
Soniodd George Wigg am berygl y sefyllfa ar lawr TÅ·'r Cyffredin ym mis Mawrth 1963. Nid oedd Profumo yn bresennol, ond gwnaeth y camgymeriad dybryd o wadu popeth gan fygwth y gyfraith ar unrhyw un a feiddiai ailadrodd yr honiadau y tu allan i furiau'r TÅ·. Llwyddodd hyn i dawelu'r wasg am ychydig, ond ymyrrodd Stephen Ward.
Teimlai mai ef oedd y bwch dihangol yng nghanol y cyfan ac aeth â'i wybodaeth at George Wigg ac at MI5. Ddeg wythnos yn ddiweddarach, ymddiswyddodd Profumo.
Holloway a chreu Hanes
Torrodd y sgandal a chyhuddwyd Stephen Ward o fyw ar enillion anfoesol ac o gynnal puteindy yn ei gartref. Er mwyn cadw Rice- Davies rhag dianc dramor, ac i sicrhau y gwnâi hi dystio yn erbyn Ward, crëwyd cyhuddiad yn ei herbyn o ffugio trwydded yrru a charcharwyd hi yng Ngharchar Holloway am bythefnos.
Yn y llys, cyfaddefodd y ddwy ffrind iddynt dderbyn arian am ffafrau rhywiol, gyda Rice-Davies yn enwi Arglwydd Astor fel un o'r rhai oedd wedi ei thalu.
Pan wadodd Astor hynny, cafwyd ateb gan Rice-Davies a ddaeth yn rhan o hanes erbyn hyn: 'He would, wouldn't he?' Ar ddiwrnod olaf yr achos, a chyn i'r rheithgor ddod i benderfyniad, lladdodd Ward ei hun drwy lyncu'r cyffur Nembutal.
Gadawodd neges ar ei ôl yn dweud nad ofn yn unig oedd yn gyfrifol am iddo gymryd ei fywyd ei hun. 'Mae'n ddymuniad i beidio â gadael iddyn nhw fy nghael i. Gwell gen i fy nghael fy hun,' meddai.
Bwch Dihangol
Dyna beth fydde fe'n dweud ondife?
Mandy Rice-Davies
Yn ddiweddarach honnodd Keeler fod Ward yn ysbïwr dros y Sofiet, ond anodd credu hynny. Honnodd ymhellach iddi hi, Rice-Davies a Ward gael eu defnyddio fel tri bwch dihangol er mwyn tynnu sylw oddi ar fethiannau asiantaethau diogelwch Prydain. Roedd hynny'n llawer agosach at y gwir.
Wedi i Keeler gael ei charcharu am naw mis am anudoniaeth, neu ddweud celwydd dan lw, galwyd am adroddiad swyddogol ar yr holl fater. Yn yr adroddiad hwnnw, beirniadodd Arglwydd Denning y Llywodraeth am beidio â gweithredu'n ddigon sydyn, er na ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth o beryglu diogelwch cenedlaethol.
Yr hanes yn troi'n ffilm
Ymddiswyddodd y Prif Weinidog, Harold Macmillan, awdur y dywediad hwnnw, 'Chawsom ni erioed mohoni mor dda.' Yng ngoleuni sgandal Profumo newidiodd y gylchgrawn dychanol, Private Eye, y dywediad i 'Chawsom ni erioed mohoni mor aml'.
Olynwyd Macmillan gan Sir Alec Douglas-91Èȱ¬. On'd oedden nhw'n ddyddiau da?
Erbyn hyn caiff yr achos yn erbyn Ward a'r ddwy ferch ei ystyried fel dim byd mwy na sioe er mwyn cuddio ffaeleddau'r gwasanaethau cudd. Pam, er enghraifft, y bu angen clywed tystiolaeth 140 o dystion mewn achos yn ymwneud â byw ar enillion anfoesol?
Yn 1989 saethwyd ffilm wedi'i seilio ar yr hanes dan y teitl 'Scandal' gyda Bridget Fonda yn chwarae rhan Mandy Rice-Davies. Ond beth ddigwyddodd i'r prif actorion yn y ddrama go-iawn?
Ni ddaeth priodas Profumo a'i wraig i ben. Galwyd Ivanov yn ôl i Foscow. Mae Christine Keeler yn byw bywyd tawel yn Llundain, a gwnaeth y ferch o Bont-iets yn fawr o'i henwogrwydd. Ysgrifennodd ei hunangofiant yn 1980 a nofel yn 1989. Bu'n rhedeg nifer o glybiau nos yn y Dwyrain Canol ac erbyn hyn mae hi'n byw yn America, lle mae hi'n fam-gu.
Lyn Ebenezer