Llywelyn ab Iorwerth - Llywelyn Fawr
08 Hydref 2010
Enillodd Llywelyn ap Iorwerth yr enw Llywelyn Fawr oherwydd ei ymdrechion i uno Cymru i wynebu her Brenin Lloegr ac Arglwyddi'r Mers.
Ganwyd tua 1173 a bu farw yn 1240.
Roedd yn 诺yr i Owain Gwynedd, arweinydd Gwynedd yn y ddeuddegfed ganrif pan oedd ei gyfoedion Madog o Bowys a Rhys o Ddeheubarth yn rheoli ardaloedd eraill y Pura Walia - y rhannau o Gymru oedd yn parhau i fod dan rym y tywysogion cynhenid.
Prif deuluoedd y Mers - yr ardal dan reolaeth y Barwniaid Normanaidd - ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd Breos, Mortimer, Fitzalan a Marshal a oedd yn llywodraethu dros rannau o siroedd y Fflint a Threfaldwyn, y rhan fwyaf o siroedd Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg, bron y cyfan o Sir Fynwy, de Sir Gaerfyrddin, a thynnu at grynswth Sir Benfro.
Yn 么l y traddodiad Cymreig, rhannwyd Gwynedd ymysg dau o feibion Owain Gwynedd wedi ei farwolaeth yn 1170 ond am ryw reswm ni chafodd ei fab arall Iorwerth Drwyndwn, Arglwydd Nantconwy, tad Llywelyn, etifeddu grym ei dad (mae'n bosib oherwydd rhyw anabledd neu anffurfiad fel mae ei enw'n ei awgrymu). Er hynny, ymgyrchodd Llywelyn nes dod yn etifedd ac arweinydd teyrnas ei daid erbyn 1200.
Tra rhannwyd Powys a'r Deheubarth wedi marwolaeth Madog a'r Arglwydd Rhys, etifeddwyd Gwynedd yn ei grynswth felly gan Lywelyn, 诺yr Owain Gwynedd.
Nid oes sicrwydd pryd yn union y ganwyd Llywelyn (mae rhai yn dweud oddeutu 1173) ac mae'n annhebyg fod y traddodiad mai yng y'i ganed yn wir gan mae Llywelyn ei hun ddechreuodd adeiladu'r castell hwnnw rywbryd ar ddechrau'r 13eg ganrif.
Mae'n bosib mae mewn lle sydd heddiw'n adfeilion o'r enw Tomen y Castell, nid nepell o Gastell Dolwyddelan, y'i ganed.
Priodas strategol
Yn 1205 priododd 芒 Siwan (Joan), plentyn siawns John, Brenin Lloegr, a oedd yn 15 oed ar y pryd. Roedd hon yn briodas strategol wleidyddol rhwng Lloegr a Chymru. Mae drama enwog Saunders Lewis yn dramateiddio'r berthynas odinebus a gafodd Siwan gyda'r Barwn Normanaidd, Gwilym Brewys. Crogwyd Brewys ond wedi ei charcharu am flwyddyn, maddeuodd Llywelyn i'w wraig ifanc.
Er hyn, profodd Siwan i fod yn ddiplomat effeithiol ar ran Llywelyn. Pan ddechreuodd ymestyn ei rym tua'r de a chipio Powys Wenwynwyn a gogledd Ceredigion anfonodd y Brenin John fyddin i Wynedd i'w ymladd. Ond llwyddodd Siwan i achub y dydd a chreu cymod rhwng ei thad a'i g诺r.
Bu'n rhaid i John selio'r Siarter Fawr - y Magna Carta - yn 1215, ac, oherwydd ei drafferthion, cafodd Llywelyn gyfle i gipio cestyll brenhinol, Caerfyrddin ac Aberteifi yn eu plith.
Adeiladodd Llywelyn yng , Castell y Bere a Dolwyddelan ac roedd ganddo sawl canolfan arall ond roedd ei brif lys yng Ngarth Celyn, Abergwyngregyn.
Yn 1216, trefnodd Llywelyn gyfarfod o'r arweinwyr Cymreig yn Aberdyfi, lle derbyniwyd ef yn ben arnynt. Yn 1218, drwy Gytundeb Caerwrangon, cydnabyddodd Harri III, brenin newydd Lloegr, ei safle. O hynny hyd ei farw yn 1240, ni fu fawr o her i'w rym.
Roedd Siwan wedi marw yn 1237 a sefydlodd ei g诺r fynachlog i Urdd Sant Ffransis yn Llanfaes, Ynys M么n, er cof amdani. Mae ei beddrod i'w weld heddiw yn Eglwys Biwmares.
Olynydd
Un mab - Dafydd - a gafodd Llywelyn a Siwan. Roedd gan Lywelyn fab anghyfreithlon arall, Gruffudd, ond roedd yn benderfynol mai ei fab cyfreithlon a fyddai'n etifeddu ei rym. Cyn ei farw cydnabuwyd Dafydd fel etifedd unigol ei dad gan y Pab, gan frenin Lloegr a chan y m芒n reolwyr Cymreig.
Roedd hyn yn groes i'r arferiad Cymreig a doedd Gruffydd ddim yn hapus. Gyda Gruffydd yn gwrthod derbyn penderfyniad ei dad, aeth Llywelyn Fawr ati sawl gwaith i'w garcharu a bu farw Gruffydd drwy grogi eu hun wrth geisio dianc o un o'r cyfnodau yma o garchar yn 1244.
Fodd bynnag, bu farw Dafydd hefyd yn 1246 yn ddi-blant. Heb olynydd, roedd y ffordd yn glir i feibion Gruffydd hawlio grym a gweledigaeth eu taid, a'r mwyaf egn茂ol o'r rhain oedd Llywelyn ap Gruffydd.