Catrin%20o%20Ferain -Mam Cymru
topCafodd ei phortreadu fel rhyw bry cop y weddw ddu, creadur sy'n dueddol o ladd pob cymar a gaiff.
Am iddi briodi bedair gwaith - chwech, a hyd yn oed saith, gwaith yn ôl rhai hanesion - golygai hynny ynddo'i hun ei bod yn darged i feirdd a haneswyr amheugar.
Dywedid iddi lofruddio rhwng un a chwech o'i gwÅ·r, rhai ohonynt wrth iddi arllwys plwm tawdd i'w clustiau.
Mynnai rhai i'w gŵr olaf, y chweched (neu'r seithfed), osgoi'r un ffawd drwy ei chadw hi'n gaeth a'i llwgu i farwolaeth.
Y stori a adroddir amlaf amdani yw iddi, ar ei ffordd i angladd ei gŵr cyntaf, addo priodi ei hail ŵr, ac ar ei ffordd allan addo priodi trydydd gŵr petai'r ail yn marw, ond dengys cronoleg hanesyddol fod hyn hefyd yn gelwydd.
Roedd hanesion o'r fath yn frith yn y cyfnod, rhyw fath o storïau Mills and Boon yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn wir, roedd hanesion o'r fath i'w cael ledled y byd.
Dechrau'r chwedlau
Fel yn achos cynifer o hanesion ffug y cyfnod, tybir mai Thomas Pennant, wrth groniclo'i daith drwy Gymru, oedd un o'r rhai cyntaf i ledaenu'r storïau am Catrin.
Mynnai hwnnw i Syr Richard Clough, wrth i Catrin fynd i angladd ei gŵr cyntaf, John Salisbury, sibrwd yn ei chlust yr hoffai ei phriodi. Yna, wrth iddi fynd o'r angladd, gofynnodd Morris Wynn o Wydir am ei llaw.
Gwrthododd Catrin hwnnw ond gan ychwanegu, petai Clough yn marw, y byddai'n barod i'w briodi. Erys un ffactor bwysig sy'n gwahanu stori Thomas Pennant oddi wrth y gwir.
Yn y cyfnod hwnnw ni fyddai gweddw'n cael mynd ar gyfyl gwasanaeth angladdol; yn wir, ni fyddai unrhyw fenyw'n cael bod yn bresennol.
Roedd y gwir am Catrin - neu o leiaf gymaint o'r gwir ag sy'n bosibl dod o hyd iddo - yn dra gwahanol. Roedd Catrin%20o%20Ferain yn un o fenywod harddaf ei dydd, fel y dengys portread ohoni gan Adrian van Cronenburgh a beintiwyd yn 1568 pan oedd hi'n 34 mlwydd oed. Roedd hi'n wyres i Harri VII ac yn fenyw ddeallus a phwerus.
Nifer o briodasau
Oedd, roedd gwir yn y ffaith iddi briodi sawl gwaith. Doedd hynny ddim yn anghyffredin o gwbl yn y cyfnod dan sylw, mwy nag ydyw heddiw. Y gwahaniaeth mawr yw mai ysgaru yw'r prif reswm dros derfynu priodasau heddiw, tra mai marwolaeth oedd yr achos yng nghyfnod Catrin. Roedd afiechydon yn rhemp.
Ffactor arall dros amlbriodi oedd nad cariad, yn aml iawn, fyddai wrth wraidd priodas ond yn hytrach barhad llinach a chyfoeth. Yn wir, dau ddewis oedd gan ferched fel Catrin - priodi neu fynd i leiandy - ac o ystyried y ddau ddewis, bu Catrin yn hynod ddoeth.
Er mwyn parhau llinach deuluol byddai priodasau'n cael eu trefnu, rhywbeth a ddirmygir yng ngwledydd y gorllewin heddiw pan fo'n digwydd rhwng pobloedd yn India a Phacistan, ond roedd parhad llinach a gwehelyth yn fater holl bwysig bryd hynny.
O'r herwydd trefnid priodasau'n aml pan fyddai'r ddarpar briodferch a'r darpar briodfab yn dal yn blant. Byddai'r ddau deulu yn dod at ei gilydd i wneud y trefniadau, gyda thad y priodfab yn darparu cartref iddynt a threfnu incwm ar gyfer y pâr ifanc a phennu faint o'r stad fyddai'n eiddo iddynt.
Cariad yn fonws
Yn ogystal, byddai'n pennu maint y gwaddol a delid i'r ferch petai hi'n cael ei gadael yn weddw. Mewn gwirionedd, cytundeb yn dibynnu ar arian ac eiddo oedd priodi - ceid cytundeb cyfreithiol rhwng y ddau deulu. Lles teuluol oedd y ffactor bwysicaf. Pe deuai cariad yn ffactor ychwanegol wedyn, yna bonws fyddai hynny.
Ganwyd Catrin Tewdwr yn 1534 yn ferch i Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville. A do, fe briododd hi fwy nag unwaith - bedair gwaith i fod yn fanwl gywir - ond nid y ffaith iddi briodi gymaint o weithiau oedd wrth wraidd y celwyddau a ddywedwyd amdani.
Yr hyn a wnaeth Catrin yn destun sgandal oedd iddi greu eiddigedd drwy briodi'n dda bob tro, gan gynyddu ei dylanwad a'i grym gyda phob uniad. Mae'n wir mai ei gŵr cyntaf oedd John Salisbury, neu Salsbri. John Salsbri oedd mab hynaf Syr John Salisbury, Lleweni, Canghellor a Siryf Dinbych.
Roedd Catrin eisoes yn berchen ar stadau Môn a Berain, sef ymron i bedair mil o erwau, ac roedd ei gŵr i etifeddu tiroedd ei dad yn Ninbych a Fflint. Bu farw Salisbury ac ailbriododd Catrin â Syr Richard Clough, asiant masnachol yn Antwerp, yn 1567.
Gweithio gyda'r diafol?
Bu Clough ar bererindod i Gaersalem, a hynny a'i gwnaeth yn Farchog o'r Beddrod Sanctaidd. Daeth yn ddyn dylanwadol a chyfoethog, ac ef a roddodd gychwyn i'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain lle gweithiai hefyd fel asiant gwleidyddol dros y Frenhines.
Daeth hynodrwydd arall i ran Clough hefyd wrth iddo godi'r tŷ brics cyntaf yng Nghymru, Bach y Graig. Codwyd y tŷ mor gyflym fel i rai gredu fod Clough yn gweithio law yn llaw â'r diafol. Bu farw Clough yn 1570 ac aeth Catrin yn ôl i Ferain.
Y nesaf i ofyn am ei llaw, yn aflwyddiannus, oedd John Vaughan o'r Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin. Yn hytrach, priododd Catrin â Morris Wynn o Wydir, un o Dywysogion Gwynedd a disgynnydd i Rhodri Fawr, Tywysogion Powys, Iarll Salisbury a Llywelyn Fawr. Fe'u priodwyd naill ai ym mis Ionawr 1572 neu 1573.
Yn wir, bu uniad arall yn fodd o dynhau'r cwlwm hwn ymhellach wrth i fab Catrin o'i phriodas gyntaf, briodi â merch i Morris Wynn o'i briodas gyntaf yntau.
Mam Cymru
Bu farw Morris Wynn ar 10 Awst 1580. Gadawodd i Catrin brydlesau a ffermydd yn arglwyddiaeth Dinbych a Sir Feirionnydd, yn cynnwys ei eiddo yn Llannefydd.
Un o dystion ewyllys Morris Wynn oedd Edward Thelwell, Plas y Ward, ac ef fyddai ei phedwerydd gŵr.
Roedd Thelwell yn ddisgynnydd i'r Tiwtoniaid a'r Normaniaid a dderbyniodd Ddyffryn Clwyd fel rhodd gan Edward y Cyntaf, yn cynnwys Castell Rhuthun, a ddaeth yn gartref i'r teulu.
Unwaith eto trefnwyd priodas ddwbl - Catrin ac Edward, a merch Catrin o'i thrydedd briodas a Simon, mab Edward o'i briodas gyntaf. Hon fyddai priodas olaf Catrin. Bu farw ddiwedd Awst 1591. Er iddi gael pedwar gŵr, nid oedd ond ychydig dros ei hanner cant oed.
Gadawodd chwech o blant, tua 16 o lysblant, tua 32 o wyrion ac wyresau ac ugeiniau o ddisgynyddion eraill. O ganlyniad fe'i galwyd yn Fam Cymru.
Gan Lyn Ebenezer